Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Mae gwella’r ffarm a’r tir o hyd wedi bod yn un o’m hamcanion. Roedd yn bwysig i fy nhad. Roedd yn gweithio ar y tir nôl yn y 1960au. Yna, fy nhro i oedd e. Os oes gennych chi dir a stoc dda, ni allwch fynd o’i le. Mae’n union fel y stori adroddodd Iesu am y ffarmwr sy’n mynd allan i blannu hedyn. Mae’n hawdd i’w ddeall. Mae gennym ni ardaloedd creigiog. Mae gennym ni lawer o rannau llawn drain ac mae gennym ni caeau da hefyd. Felly mae’n hawdd deall fod dim llawer o bwynt rhoi’r hadau ar dir caled lle na fyddant yn tyfu. Byddant yn cael ei mogi gan y drain. Ond os fydd yr hedyn yn syrthio ar dir da bydd e’n tyfu. Cefais fy magu mewn teulu lle'r oedd y Beibl yna drwy’r amser. Doeddwn i byth yn amau hynny. Ac felly, dwi wastad wedi derbyn cariad Crist. Mae’n hawdd i’w wneud pan rydych yn byw yma. Mae hefyd yn hawdd i mi weld Iesu fel bugail, fel y dywed yn John 10:14. Deallaf am golli defaid. Os oes un ar goll, fe wnawn ni unrhyw beth i’w canfod.'

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible