Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Yr adnod sy’n golygu fwyaf i mi yw 2 Corinthiaid 12.9, “Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i'w anterth”.

‘Des i’n Gristion yn 1990 a chefais brofiad anhygoel i ddechrau, ond disgynnais wedyn o dan ddylanwad Cristnogion eraill a aeth i ffwrdd o’r eglwys a dod yn ddylanwad rheolaethol aruthrol yn fy mywyd. Daeth yn ficro-cwlt yn ne-orllewin Ffrainc a bûm yn byw yno o 1994 i 2002. Dros y blynyddoedd des yn fwy a mwy encilgar, dan reolaeth ac ynysig.

‘Un diwrnod roedden nhw'n gweiddi arnaf am oriau ynglŷn â rhywbeth na allaf ei gofio mwyach. Roedd hyn yn ddigwyddiad cyffredin a gallai bara am ddyddiau. Rwyf yn gweithio yn y gwasanaethau brys nawr a gwn sut deimlad yw bod ar ben eich tennyn. Ar y pryd doedd gen i ddim byd, dim ar ôl. Cefais y Beibl yn agored yn yr adnod hon. Wrth ei darllen, teimlais  fy mod wedi fy nerthu’n llwyr. Roeddwn i'n gallu wynebu'r sefyllfa. Pan ddes i'n ôl i'r DU, fe wnaeth Duw fy adfer yn ôl i'm teulu, ffrindiau ac eglwys.

‘Mae’n adnod sydd wedi mynd gyda mi drwy 20 mlynedd o gael fy mhrofi dan amgylchiadau anodd. Pan fyddaf mewn digwyddiad, teimlaf fod Duw gyda mi a gyda'r bobl hynny yn eu munudau gwaethaf. Gwn fy mod wedi cwrdd ag Ef yn y sefyllfaoedd hynny. Weithiau dw i wedi gallu bod y person hwnnw i roi gair caredig ar yr adeg iawn.

‘Mae wedi fy nghynnal yn feddyliol yn fy swydd. Yn y gwasanaethau brys rydych chi'n amsugno popeth a welwch. Mae yna bethau na allwch chi eu dad-weld. Mae'r geiriau hyn wedi'u hysgrifennu ar fy nghalon. Mae fel tatŵ yn fy ysbryd - tatŵ gan Iesu. Mae'n rhedeg trwof i fel india-roc. Gwn fy mod wedi fy ngharu a’m gwarchod a bod Duw gyda mi.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible