Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Yn 2003 es i Uganda. Roeddwn yn drysorydd elusen ac es i ymweld â'r gwaith roeddwn wedi bod yn ei gefnogi. Doeddwn i erioed wedi bod dramor o'r blaen nac erioed wedi bod ar daith bell mewn awyren felly roedd yn ddigwyddiad mawr i mi, yn fwy felly oherwydd ychydig flynyddoedd ynghynt roedd ME arna i a bûm i ffwrdd o'r gwaith am 10 mis.

‘Doeddwn i ddim yn dda pan gyrhaeddais i yno, a dwi’n cofio un noson gorwedd o dan rwyd mosgito yn dweud wrth yr Arglwydd, “Roeddet ti eisiau fi yma, dw i’n ymddiried ynot ti ond dydw i ddim yn gwybod beth mae hyn i gyd yn ei olygu.”

‘Ym maes hybu iechyd oedd fy mhroffesiwn. Sylweddolais fod Duw eisiau i mi brofi sut brofiad oedd bod yn sâl a pheidio â gallu cael unrhyw help. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mynychais angladd merch dair oed a fu farw o falaria oherwydd na allent ei chael i'r ysbyty.

‘Un noson roedd hi’n bygddu, a’r unig ffordd i mi weld i ble’r oeddwn i’n mynd oedd â fflachlamp, a daeth Salm 119.105 i’m cof, “Y mae dy air yn llusern i'm troed, ac yn oleuni i'm llwybr.” Meddyliais, dim ond un cam ar y tro y bydd gair Duw yn ei ddangos i mi. Roedd yn ddarlun byw iawn.

‘Y diwrnod canlynol es i am dro drwy olygfeydd, synau ac arogleuon y pentref. Teimlais yr Arglwydd yn dweud, “Thelma, a elli di deimlo fy nghalon?”

‘Nawr roeddwn i’n gwybod pam fy mod wedi gorfod mynd i Uganda. Fy mhroffesiwn oedd iechyd y cyhoedd – roedd hyn yn amlwg yn absennol yma.

‘Yn fuan ar ôl dychwelyd adref, cefais wahoddiad gan fy ngwaith i gofrestru ar gyfer MSc mewn Iechyd y Cyhoedd. Roeddwn i'n meddwl bod hyn yn rhyfedd gan fy mod yn agosáu at oedran ymddeol. Doedd gen i ddim lefel A na gradd. Ond eto, meddyliais yn ôl am Uganda – ai hwn oedd y cam nesaf? Ar ôl sawl blwyddyn o astudio'n rhan-amser, yn 60 oed graddiais gydag MSc mewn Iechyd y Cyhoedd. O fewn dyddiau, cefais wahoddiad i fod yn ymgynghorydd gwirfoddol ac ymuno â grŵp i ysgrifennu’r strategaeth hybu iechyd ar gyfer elusen Gristnogol sy’n gweithio’n rhyngwladol.

‘Un cam ar y tro, roedd yr Arglwydd yn cyflawni ei gynllun ar gyfer fy mywyd, ac mae’n parhau i wneud hynny.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible