Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Rydw i yn y Fyddin. Ar ddiwedd fy nhaith ar ddyletswydd, des i i Ghana i weld fy nheulu. Roeddwn i'n llawn egni a llawenydd. Roeddwn i fod i hedfan yn ôl ar 3 Ebrill. Yna daeth y pandemig ac ni allwn ddychwelyd. Mae'r hediad nesaf sydd ar gael ym mis Gorffennaf.

‘Roeddwn yn bryderus ac yn rhwystredig, yn enwedig am fy ngwaith, oherwydd does neb yn gweithio yn fy lle ar hyn o bryd. Mae wedi bod yn anodd iawn. Mae hynny'n pwyso ar fy meddwl ac rwy'n poeni, o ddifrif, amdano. Rwy'n gwybod am y pwysau a ddaw yn sgil y swydd. Rwy'n gwybod y byddaf yn gweithio'n hwyr ac yn codi'n gynnar i ddal i fyny.

'Rwyf wedi bod yn cysylltu'n dda iawn â'r Arglwydd yn ystod yr amseroedd anodd hyn. Gwyliais ffilm am Heseceia ac yna darllenais Eseia 37. Sylweddolais fod gan Dduw bopeth o dan reolaeth waeth pa bynnag sefyllfa yr ydych ynddo, waeth beth yw'r storm. Rwy'n credu bod Duw yn gwybod lle rydw i. Rwy'n siŵr y bydd rhywbeth da yn dod allan o hyn. Mae wedi bod yn anodd bod i ffwrdd o'r gwaith, ond rhoddodd y darn hwn yn Eseia ymdeimlad o heddwch i mi. Roeddwn i'n poeni, a bod yn onest, yn mynd i banig. Ond wrth ddarllen y darn hwn, roeddwn i'n gwybod y gallwn i gael ffydd yn yr Arglwydd.'

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible