Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

'Fy ngwaith i yw amcangyfifwr i gwmni gosod teils ac rydwi wedi bod wrthi yn dodi teils i lawr ers blynyddoedd. Felly, mae’n beth hollol newydd i mi i orfod gweithio o fwrdd y gegin. Aeth yr wythnos gyntaf heibio yn iawn.  Ond d’yw pethau ddim cystal ar ôl hynny! Mae’n cwmni ni wedi bod mewn bodolaeth ers ugain mlynedd eleni a’r bwriad oedd rhedeg Marathon Southhampton. Wel, dim gobaith. Felly rydyn ni am redeg 2020 cilomedr mewn 20 diwrnod. Rydyn ni ar ddydd wyth ac mae ‘nghoesau yn iawn hyd yma. 

'Pan rwy’n rhedeg mae’n gyfle da i mi gael meddwl. Mae’r rhedeg yn creu amser i mi gael myfyrio ynddo. Does dim byd yn tynnu fy sylw. Yn yr amser hwnnw mae pob math o bethau yn fy nharo, fy ngofidau, pethau cyffredinol. Mae un o fy merched yn byw ei hunan mewn fflat a does ganddi ddim gardd. Bu hynny’n anodd. Mae ein rhieni yn hen. Mae’n anodd gwybod sut i’w helpu. 

'Ond mae pethau da iawn yn digwydd er hynny. Dydw i ddim wedi siarad cymaint gyda fy rhieni a’m mhlant ers amser. Fy ngofid i yw y bydd popeth yn mynd yn ôl fel ag yr oedd y munud y bydd y siopau’n agor eto. Ond rydych chi’n dod i sylweddoli cyn lleied sydd ei wir angen arnoch pan mae gennych chi deulu, ffrindiau a bwyd. 

'Mae adnod yn Llyfr y Datguddiad sy’n son am bren y bwyd a bod ei dail i iachau’r cenhedloedd. Mae’r cymal yna wedi denu fy sylw erioed a bellach rwy’n meddwl am honno pan fyddai’n rhedeg. Ydyn, mae’r straeon am drais gangiau wedi peidio yn ystod y pandemig, ac mae pobl wedi dod ynghyd i helpu eu cymunedau. Tybed allwn ni gario ymlaen yn yr un modd ar ôl hyn? Mae’r adnod yn rhoi gobaith i mi. Mae’n hawdd mynd ar goll yn y newyddion ac allwch chi ddim gweld gobaith yno. Ond mae yno.'

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible