Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

'Fe fu’m i’n swyddog yn yr Heddlu am 30 mlynedd, a bellach rwy’n Brif Weithredwr Cymdeithas Gristnogol yr Heddlu. Rwy’n falch dros ben o’n swyddogon ni. Ond mae’n anodd braidd i mi fod yn gorfod sefyll ar yr ochr yn gwylio fy ffrindiau a’m cydweithwyr ar y rheng flaen. 

'Bob dydd rwy’n darllen yr un adnod allan o’r Beibl. Mae hi ar fy nghyfrifiadur bob amser. Galatiaid 6,9 yw hi. ‘Gadewch i ni beidio byth â blino ar wneud daioni ac yn yr amser addas fe fyddwn yn medi’r cynhaeaf os byddwn yn dal ati.’ 

'Mae hi wedi bod yn galondid mawr i mi – ac mae’n adnod hon ar gyfer pawb arall hefyd. Wrth aros adref rydyn ni’n gwneud daioni, yn helpu ein cymdogion, yn helpu’r Gwasanaeth Iechyd. Mae hi’n adnod arbennig o addas ar gyfer ar yr amser hwn. 

'Mae’r ymatebwyr cyntaf yn y gwananaethau brys yn mynd i ofidio. Mae nhw’n fyr o gwsg. Mae nhw’n ofidus am eu hechyd eu hunain. Mae’n swyddogion ni yma ym Mhrydain wedi sylwi bod llai o droseddau ac anrhefn, ond twf ym maint y ffraeo rhwng cymdogion a thrais yn y cartref. Mae nhw’n gorfod delio gyda hynnwy ac yn meddwl am eu diogelwch eu hunain tra mae nhw wrthi. 

'Rydwi wedi rhannu’r adnod yma gyda’n haelodau am fy mod i am eu hannog a’u calonogi nhw.  Mae’r adnod yn son am beidio blino. Dyna’r gefnogaeth i ni. Mae pawb wedi cyd-dynnu ond d’yn nhw? Mae angen i bawb barhau i wneud hynny. Fe fydd y cyfyngiadau yn mynd yn fwy anodd yr hiraf y byddan nhw’n parhau am mai pobl gymdeithasol ydyn ni yn y diwedd. Ond mae’n rhaid i ni ddal ati i wneud daioni er mwyn achub bywydau.'

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible