Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Os edrychwch trwy fy Meibl, dim ond un adnod sydd wedi’i danlinellu. 1 Samuel 18.14 ydyw, “Yr oedd Dafydd yn llwyddiannus ym mhopeth a wnâi, ac yr oedd yr Arglwydd gydag ef.”

‘Roedd yn adnod a roddwyd i mi pan es i’r brifysgol. Bu’n byw gyda mi trwy fy nghyfnod prifysgol. Ac mae'n parhau i siarad â mi nawr.

‘Roeddwn yn rhannu tŷ gyda ffrind oedd yn llawer mwy galluog o ran deall ac roedd hi’n gweithio’n galetach o lawer na fi. Ond daeth y ddau ohonom allan gyda'r un canlyniad. Credais fod Duw wedi fy mendithio oherwydd imi dreulio llawer o amser yn yr Undeb Cristnogol, ac yn yr eglwys, ac yn mynd i gyrddau gweddi boreol. Trwy roi Crist yn gyntaf, fe fendithiodd fi mewn meysydd eraill yn fy mywyd.

‘Peth amser yn ôl, roeddwn i gyda fy merch yn y parc. Roedd hi eisiau neidio oddi ar y ffrâm ddringo a dywedodd, “Rwyt ti'n mynd i fy nal, Dadi on’d wyt?” Daliais i hi. Teimlais Dduw yn dweud wrthyf, “Mae'n bryd iti neidio ac ymddiried ynof." Felly, gadewais fy swydd fel athro mathemateg, ar ôl 14 mlynedd yn y swydd. Rwy'n dibynnu ar yr adnod hon yn ddyddiol. Beth bynnag rydw i'n ei wneud nawr, credaf y gallaf gael llwyddiant oherwydd yr hyn y mae Duw yn ei wneud yn fy mywyd.

‘Dw i eisiau gwneud popeth! Mae tiwtora yn talu'r biliau, ond rydw i eisiau gwneud gwaith troslais ac rydw i wedi sefydlu stiwdio yn fy nhŷ.

‘Rwy’n bymtheg mis i mewn ac nid wyf wedi amau ​​gallu Duw i ddarparu ar fy nghyfer ac nid wyf wedi amau ​​ei fendith ar fy mywyd, a hyd yn hyn, mae wedi darparu. Rwy’n gwybod bod gan Dduw ei law ar fy mywyd, sy’n gysur a bendith ryfeddol, a dweud y gwir.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible