Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Rwy'n gweithio'n rhan-amser. Mae’n talu'r am gostau gofal plant, sy'n ddrud. Ond yn ddiweddar, roeddwn i'n ceisio gweithio mwy o oriau oherwydd roeddwn i angen mwy o incwm. Gofynnwyd imi a oeddwn eisiau gwneud gwaith plant yn fy eglwys. Mae gen i ddau o blant, ond nid dyna fy myd i.

‘Felly, mi wnes i gwglo “Beibl a phlant”. Nid yw cofio darnau o'r Beibl yn dod yn naturiol i mi. Roedd deg peth gwahanol, ond yr un rydw i'n ei gofio oedd o Rhufeiniaid 10.14. Mae'n dweud, “Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alw arno os ydyn nhw ddim wedi credu ynddo? A sut maen nhw'n mynd i gredu ynddo heb glywed amdano? Sut maen nhw'n mynd i glywed os ydy rhywun ddim yn dweud wrthyn nhw?”

‘Fe'i darllenais a meddyliais, reit, iawn. Mae angen i rywun wneud y rôl hon ac fe allaf ei wneud. Mi rof gynnig arni. Mae'n teimlo fel mai fy nghyfrifoldeb i yw. Mae'n herio fy ffydd. Dydw i ddim yn gwybod y Beibl yn dda iawn, ond byddaf yn dysgu’r un pryd â'r plant.

‘Y plant yw enaid yr eglwys. Pan fyddwn ni wedi mynd, pwy fydd yn parhau os nad nhw? Dyna fy ysgogiad.’

 

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible