Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘I mi, mae yna un ysgrythur a newidiodd fy holl fywyd a bywyd fy nheulu. Pan oeddwn i'n tyfu i fyny, fe wnaeth fy Nhad fy ngham-drin i a bu bron i mi golli fy mywyd. Fy atgof cyntaf, oedd pan roeddwn i'n dair oed ac yn cuddio y tu ôl i'm brawd ac roedd fy Nhad yn taflu fy Mam ar draws yr ystafell.

‘Fe wnaeth fy ngham-drin yn gorfforol ac yn eiriol. Pan oeddech yn dod adref, nid oeddech yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Rydych chi'n byw ar fin y gyllell. Roedd yn ddinistriol iawn. Roeddwn i'n teimlo yn neb. 

‘Clywais bregeth anhygoel ar Effesiaid 6.12 a newidiodd bopeth, newid y frwydr gyfan. Mae’n dweud, “Nid â meidrolion yr ydym yn yr afael, ond â thywysogaethau ac awdurdodau, â llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd.”

‘‘Pan glywais yr adnod hon, newidiodd fy ngweledigaeth gyfan o’r sefyllfa. Fe wnes i gael gwared ar y boen, y cam-drin ac es i i'r byd ysbrydol. Cefais y weledigaeth y byddai’n rhaid imi weddïo nid yn unig dros fy Nhad, ond cenedlaethau o’n teulu.

‘Felly, mi wnes i ymprydio a gweddïo dros fy Nhad am bythefnos. O hynny, derbyniodd Iesu Grist. Newidiodd hynny'r persbectif cyfan yn ein teulu. Ef yw'r Dad gorau a gefais erioed. Bu bron iddo fy lladd. Nawr mae'n gweddïo drosof.

‘Rwy'n dal mewn sioc bod fy Nhad wedi rhoi ei fywyd i Grist. Waw, Arglwydd, rwyt ti mor fawr! Doeddwn i ddim yn disgwyl hynny. Wn i ddim beth sy'n digwydd. Bydd yn cymryd blynyddoedd i mi ei amgyffred, rwy’n meddwl.’

 

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible