Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Fe wnes i daro pwynt isel iawn fis Tachwedd diwethaf. Ar ôl ennill cyflog da fel athro, cefais fy hun ar gredyd cyffredinol gyda dim ond £404 y mis. Roedd yn anodd iawn. Sut ydw i'n byw ar hynny? Es i mewn i bwll tywyll.

‘Un diwrnod es i i'r traeth. Penderfynais fy mod i'n mynd i gerdded i'r môr. Roedd y cyfan yn ormod. Roeddwn i wedi tynnu fy esgidiau a sanau i ffwrdd. Roedd yno bysgotwr. Teimlais blwc a dywedodd, “Paid â gwneud unrhyw beth gwirion”. Eisteddodd gyda mi, ac yn fwyaf braf, gweddïodd gyda mi. Meddai, “Rwyt ti'n mynd i ddod trwy hyn. Mae Duw yma i ti.”

‘Rwy’n derbyn cwnsela ac rwy’n falch fy mod yn dal yn fyw. Rwy'n edrych ar bethau o safbwynt gwahanol nawr. Rwy'n gobeithio y bydd Duw yn fy helpu i helpu pobl eraill yn y sefyllfa honno.

‘Rwyf wedi dysgu Salm 73.26 sy’n dweud, “Er i'm calon a'm cnawd ballu, eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.” Rwy'n mynd yn ôl at hwn bob dydd. Rwy'n cael y cryfder sydd ei angen arnaf trwy wrando arno a darllen ei air. Os na wnaf, af oddi ar y cledrau a phan oeddwn yn nyfnder anobaith, nid oeddwn yn gwrando arno.

‘Mae'r Ysgrythur yn eich dwyn chi allan o'r felan. Gwn fod yna ddarlun mwy. Wn i ddim beth ydi o, ond mae ef yn gwybod, oherwydd Ef yw fy “nghryfder” a fy “rhan”. Welais i ddim mo hynny o'r blaen. Pan fyddaf yn gweiddi arno, gwn ei fod yno gyda mi. Mae’n deimlad cysurlon.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible