Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Daeth adnod o Salm 23 yn arbennig o ystyrlon i mi rai blynyddoedd yn ôl pan oeddwn yn y Brifysgol ac ymosodwyd arnaf yn gorfforol ac yn rhywiol gan aelod o staff. Arweiniodd hynny fi i le tywyll ofnadwy. Roeddwn i'n teimlo'n unig iawn ac wedi fy ngadael gan Dduw - pam ydw i yn y lle hwn, pam y gadawodd e hyn i ddigwydd i mi a ble mae e yn hyn i gyd?

‘Rhoddodd ffrind sy’n Gristion lyfr nodiadau i mi gydag adnod 4 ar y clawr - “Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a'th wialen a'th ffon yn fy nghysuro.” Fe wnaeth hi'n fy nghefnogi trwy bopeth oedd yn digwydd - ymchwiliad yr heddlu a phopeth. Dim ond cael y llyfr hwnnw yno oedd ei angen a byddwn yn ei weld wrth ddeffro. Roedd yn fy atgoffa nad oedd Duw yn dweud y byddai bywyd yn berffaith, ond y byddai'n fy nghysuro yn y dyffryn tywyll hwnnw.

‘Roeddwn yn ofnus iawn y pryd hwnnw. Roeddwn i'n ofni gadael fy ystafell. Es i ddim allan – ac roedd y geiriau “Nid ofnaf unrhyw niwed” yn wirioneddol siarad â mi. Roedd angen i mi ymddiried yn Nuw a cheisio ei gysur.

‘Yn sgil hynny cefais lawer o help. Datblygais anhwylder bwyta a chefais help at hynny. Ac roedd geiriau’r salm yn dod yn ôl ataf o hyd – o gael y ffordd gorfforol honno o’u gweld bob tro y deffrais, bob tro yr oeddwn yn teimlo’n hunanladdol, gallwn edrych draw a gweld Salm 23 adnod 4.

‘Wnes i erioed stopio credu, ond am ychydig fe wnes i roi'r gorau i weld Duw yno i'm cysuro. Roeddwn angen cael fy atgoffa bod Duw yn malio amdanaf fel unigolyn.

‘Nid aeth pethau’n berffaith – cafodd ymchwiliad yr heddlu ei ollwng, ac rwyf wedi cael pobl yn dweud pethau annymunol iawn. Ond mae fy mherthynas â Duw yn gryfach nag yr oedd o'r blaen. Pan fyddwch chi'n pwyso arno ac mae'n eich arwain trwy rywbeth, mae gennych chi gysylltiad dyfnach.

‘Teimlais yr alwad i’r weinidogaeth ers yn ifanc, ond yr oedd hwnnw’n gyfnod o deimlo, “A yw gormod wedi digwydd i mi, a ydw i rhy fregus i fynd i’r weinidogaeth?” Felly dwi'n ddiolchgar iawn am iachâd Duw. Gallaf wir weld ei gynllun ar gyfer fy mywyd eto.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible