No themes applied yet
Y cariad:
1Mae dy draed yn dy sandalau mor hardd,
o ferch fonheddig.
Mae dy gluniau mor siapus –
fel gemwaith gan grefftwr medrus.
2Mae dy wain ddirgel fel cwpan gron
yn llawn oʼr gwin cymysg gorau.
Mae dy fol fel pentwr o wenith
a chylch o lilïau oʼi gwmpas.
3Mae dy fronnau yn berffaith
fel dwy gasél ifanc, efeilliaid.
4Mae dy wddf fel tŵr o ifori,
aʼth lygaid fel llynnoedd Cheshbon
ger mynedfa Bath-rabbîm.
Mae dy drwyn hardd fel y tŵr yn Libanus
syʼn wynebu dinas Damascus.
5Tiʼn dal dy ben yn uchel
fel Mynydd Carmel
ac mae dy wallt hardd fel edafedd drud
yn dal y brenin yn gaeth yn ei dresi.
6O, rwyt mor hardd! Mor hyfryd!
Tiʼn fy hudo, fy nghariad!
7Tiʼn dal fel coeden balmwydd,
aʼth fronnauʼn llawn fel ei sypiau o ddatys.
8Dw i am ddod a dringoʼr goeden
a gafael yn ei ffrwythau.
Mae dy fronnau fel sypiau o rawnwin,
aʼu sawr yn felys fel afalau.
9Mae dy gusanau fel y gwin gorau
yn llifoʼn rhydd ar fy ngwefusau
wrth i ni fynd i gysgu.
Y ferch:
10Fy nghariad piau fi,
ac mae fʼeisiau.
11Tyrd, fy nghariad, gad i ni fynd iʼr caeau;
gad i ni dreulioʼr nos rhwng y blodau henna.
12Gad i ni godiʼn gynnar
a mynd lawr iʼr gwinllannoedd,
i weld os ydyʼr winwydden wedi blaguro
aʼu blodau wedi agor;
ac i weld os ydyʼr pomgranadauʼn blodeuo –
yno gwnaf roi fy hun i ti.
13Yno bydd persawr hyfryd y mandragorau7:13 mandragorau neu “ffrwythau cariad”. Roedd pobl y credu fod bwytaʼr ffrwyth yma yn cyffroi chwant rhywiol ac yn helpu merched i feichiogi (cf. Genesis 30:14-16).
yn llenwiʼr awyr,
a danteithion pleser wrth ein drysau –
y cwbl dw i wediʼi gadw
iʼw rannu gyda ti, fy nghariad.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015