No themes applied yet
Aberthau byw
1Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw iʼn apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw – un syʼn lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn! 2O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chiʼn llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynnyʼn dda ac yn ei blesio fe, ac mai dynaʼr peth iawn iʼw wneud.
3Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi, fel rhywun mae Duw wedi bod mor garedig ato: Peidiwch meddwl eich bod chiʼn well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chiʼch hun wrth ystyried faint o ffydd mae Duw wediʼi roi i chi. 4Maeʼr eglwys yr un fath âʼr corff dynol – mae gwahanol rannau iʼr corff, a dydy pob rhan oʼr corff ddim yn gwneud yr un gwaith. 5Yn yr eglwys dŷn ni gydaʼn gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon niʼn rhan oʼr corff ac mae arnon ni angen pawb arall. 6Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni. Os ydy Duw wedi rhoiʼr gallu i ti roi neges broffwydol, gwna hynny pan wyt tiʼn gwybod fod Duw am i ti wneud. 7Os mai helpu pobl eraill ydy dy ddawn di, gwna job dda ohoni. Os oes gen tiʼr ddawn i ddysgu pobl eraill, gwna hynnyʼn gydwybodol. 8Os wyt tiʼn rhywun syʼn annog pobl eraill, bwrw iddi! Os wyt yn rhannu dy eiddo gydag eraill, bydd yn hael. Os oes gen tiʼr ddawn i arwain, gwna hynnyʼn frwd. Os mai dangos caredigrwydd ydy dy ddawn di, gwna hynnyʼn llawen.
Cariad
9Rhaid iʼch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth syʼn dda. 10Byddwch o ddifri yn eich gofal am eich gilydd, a dangos parch at eich gilydd. 11Peidiwch byth â gadael iʼch brwdfrydedd oeri, ond bod ar dân yn gweithio iʼr Arglwydd yn nerth yr Ysbryd Glân. 12Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi. Byddwch yn amyneddgar tra dych chiʼn dioddef, a daliwch ati i weddïo. 13Rhannwch beth sydd gynnoch chi gyda phobl Dduw sydd mewn angen. Ewch allan oʼch ffordd i roi croeso i ymwelwyr yn eich cartrefi bob amser.
14Peidiwch melltithioʼr bobl hynny syʼn eich erlid chi – gofynnwch i Dduw eu bendithio nhw.12:14 Mathew 5:44; Luc 6:28 15Byddwch yn llawen gyda phobl syʼn hapus, a chrio gydaʼr rhai syʼn crio. 16Byddwch yn ffrindiau da iʼch gilydd. Peidiwch meddwl eich bod yn rhy bwysig i fod yn ffrindiau gydaʼr bobl hynny syʼn ‘neb’. Peidiwch rhoiʼr argraff eich bod yn gwybod y cwbl. 12:16 gw. Diarhebion 3:7
17Peidiwch byth taluʼr pwyth yn ôl. Gadewch i bobl weld eich bod yn gwneud y peth anrhydeddus bob amser. 18Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb. 19Peidiwch mynnu dial ar bobl, ffrindiau; gadewch i Dduw ddelio gydaʼr peth. Fel maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Fi syʼn dial; gwna i dalu yn ôl’ meddaiʼr Arglwydd.”12:19 Deuteronomium 32:35 20Dyma ddylet ti ei wneud:
“Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo;
os ydy eʼn sychedig, rho rywbeth iʼw yfed iddo;
wrth wneud hynny byddiʼn tywallt
marwor tanllyd ar ei ben.”12:20 Diarhebion 25:21,22 (LXX)
21Paid gadael i ddrygioni dy ddal yn ei grafangau – trecha di ddrygioni drwy wneud daioni.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015