No themes applied yet
Diolch am fuddugoliaeth
Salm Dafydd.
1Bendith ar yr ARGLWYDD, fy nghraig i!
Mae e wedi dysgu fy nwylo i ymladd,
aʼm bysedd i frwydro.
2Maeʼr Un ffyddlon fel castell oʼm cwmpas;
fy hafan ddiogel aʼr un syʼn fy achub i.
Fy nharian, aʼr un dw iʼn cysgodi ynddo.
Mae eʼn gwneud i wledydd eraill ymostwng i mi.
3O ARGLWYDD, beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw?
Pam ddylet ti feddwl ddwywaith am berson dynol?
4Mae pobl fel tarth.
Mae bywyd fel cysgod yn pasio heibio.
5O ARGLWYDD, gwthiaʼr awyr oʼr ffordd, a thyrd i lawr!
Cyffwrdd y mynyddoedd, a gwna iddyn nhw fygu!
6Gwna i fellt fflachio a chwalaʼr gelyn!
Anfon dy saethau i lawr aʼu gyrru nhw ar ffo!
7Estyn dy law i lawr oʼr entrychion.
Achub fi! Tynna fi allan oʼr dŵr dwfn!
Achub fi o afael estroniaid
8syʼn dweud celwyddau
ac syʼn torri pob addewid.
9O Dduw, dw i am ganu cân newydd i ti,
i gyfeiliant offeryn dectant.
10Canu i ti sydd wedi rhoi buddugoliaeth i frenhinoedd,
ac achub dy was Dafydd rhag y cleddyf marwol.
11Achub fi o afael estroniaid
syʼn dweud celwyddau
ac syʼn torri pob addewid.
12Bydd ein meibion fel planhigion ifanc
wedi tyfu yn eu hieuenctid;
aʼn merched fel y pileri ar gorneliʼr palas,
wediʼu cerfio i hardduʼr adeilad.
13Bydd ein hysguboriauʼn llawn
o bob math o fwyd;
a bydd miloedd o ddefaid,
ie, degau o filoedd, yn ein caeau.
14Bydd ein gwartheg yn iach –
heb bla a heb erthyliad;
a fydd dim wylo yn y strydoedd.
15Mae pobl mor ffodus pan mae pethau felly.
Maeʼr bobl sydd âʼr ARGLWYDD yn Dduw iddyn nhw
wediʼu bendithioʼn fawr!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015