No themes applied yet
Gweddi am help
Salm Dafydd.
1O ARGLWYDD, gwrando ar fy ngweddi.
Gwranda arna iʼn pledio am dy help di!
Tiʼn Dduw ffyddlon a chyfiawn, felly, plîs ateb fi.
2Paid rhoi dy was ar brawf,
achos does neb yn ddieuog yn dy olwg di.
3Maeʼr gelyn wedi dod ar fy ôl i,
ac wedi fy sathru iʼr llawr.
Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwch
fel y rhai sydd wedi marw ers talwm.
4Dw iʼn anobeithio,
dw i wedi fy mharlysu gan ddychryn!
5Ond wedyn dw iʼn cofio am beth wnest ti yn y gorffennol,
ac yn myfyrio ar y cwbl wnest ti ei gyflawni.
6Dw iʼn estyn fy nwylo allan atat ti.
Dw i fel tir sych yn hiraethu am law!
Saib
7Brysia! Ateb fi, ARGLWYDD!
Alla i ddim diodde dim mwy!
Paid troi i ffwrdd oddi wrtho i,
neu bydda iʼn syrthio i bwll marwolaeth.
8Gad i mi glywed am dy gariad ffyddlon di yn y bore,
achos dw iʼn dy drystio di.
Gad i mi wybod pa ffordd i fynd –
dw iʼn dyheu amdanat ti!
9Achub fi o afael y gelyn, O ARGLWYDD;
dw iʼn rhedeg atat ti am gysgod.
10Dysga fi i wneud beth wyt ti eisiau,
achos Ti ydy fy Nuw i.
Boed i dy Ysbryd hael di fy arwain
i rywle saff.
11Achub fi, O ARGLWYDD, er mwyn dy enw da.
Tiʼn Dduw cyfiawn, felly arwain fi allan oʼr helynt yma.
12Rwyt ti mor ffyddlon. Delia gydaʼr gelynion!
Dinistriaʼr rhai syʼn ymosod arna i,
achos dy was di ydw i.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015