No themes applied yet
Gweddi am help
Mascîl. Salm gan Dafydd, pan oedd yn yr ogof.142:0 1 Samuel 22 Gweddi.
1Dw iʼn gweiddiʼn uchel ar yr ARGLWYDD;
dw iʼn pledio ar iʼr ARGLWYDD fy helpu.
2Dw iʼn tywallt y cwbl syʼn fy mhoeni oʼi flaen,
ac yn dweud wrtho am fy holl drafferthion.
3Pan dw i wedi anobeithioʼn llwyr,
rwyt tiʼn gwylio pa ffordd dw iʼn mynd.
Maen nhw wedi cuddio magl
ar y llwybr o mlaen i.
4Dw iʼn edrych iʼr dde –
ond does neb yn cymryd sylw ohono i.
Mae dianc yn amhosib –
does neb yn poeni amdana i.
5Dw iʼn gweiddi arnat ti, ARGLWYDD;
a dweud, “Ti ydyʼr unig le saff i mi fynd,
does gen i neb arall ar dir y byw!”
6Gwranda arna iʼn gweiddi, dw iʼn teimlo mor isel.
Achub fi o afael y rhai sydd ar fy ôl;
maen nhwʼn rhy gryf i mi.
7Gollwng fiʼn rhydd oʼr carchar yma,
er mwyn i mi foli dy enw di.
Bydd y rhai cyfiawn yn casglu oʼm cwmpas
am dy fod ti wedi achub fy ngham.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015