No themes applied yet
Galwad i foli Duw
Cân yr orymdaith.
1Dewch! Bendithiwch yr ARGLWYDD,
bawb ohonoch chi syʼn gwasanaethuʼr ARGLWYDD,
ac yn sefyll drwyʼr nos yn nheml yr ARGLWYDD.
2Codwch eich dwylo, aʼu hestyn allan tuaʼr cysegr!
Bendithiwch yr ARGLWYDD!
3Boed iʼr ARGLWYDD, sydd wedi creuʼr nefoedd aʼr ddaear,
eich bendithio chi o Seion!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015