No themes applied yet
Y fendith o fod gydaʼn gilydd
Cân yr orymdaith. Salm Dafydd.
1Mae mor dda, ydy, mae mor hyfryd
pan mae pobl Dduw yn eistedd gydaʼi gilydd.
2Mae fel olew persawrus
yn llifo i lawr dros y farf –
dros farf Aaron
ac i lawr dros goler ei fantell.
3Mae fel gwlith Hermon
yn disgyn ar fryniau Seion!
Dyna lle maeʼr ARGLWYDD
wedi gorchymyn iʼr fendith fod –
bywyd am byth!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015