No themes applied yet
Rhywun wediʼi achub rhag marw yn moli Duw
1Dw i wir yn caruʼr ARGLWYDD
am ei fod yn gwrando ar fy ngweddi.
2Mae eʼn troi i wrando arna i
a dw iʼn mynd i ddal ati i alw arno bob amser.
3Roedd rhaffau marwolaeth wediʼu rhwymo amdana i;
roedd ofn y bedd wedi gafael ynof fi.
Rôn i mewn helbul! Roedd fy sefyllfaʼn druenus!
4A dyma fiʼn galw ar yr ARGLWYDD,
“O ARGLWYDD, plîs, achub fi!”
5Maeʼr ARGLWYDD mor hael a charedig;
ydy, mae ein Duw ni mor drugarog.
6Maeʼr ARGLWYDD yn amddiffyn pobl gyffredin;
achubodd fi pan oeddwn iʼn teimlo mor isel.
7Ond bellach dw iʼn gallu ymlacio eto.
Maeʼr ARGLWYDD wedi achub fy ngham!
8Wyt, rwyt ti wedi achub fy mywyd i,
cymryd y dagrau i ffwrdd,
aʼm cadw i rhag baglu.
9Dw iʼn mynd i fywʼn ffyddlon iʼr ARGLWYDD
ar dir y byw.
10Rôn iʼn credu ynddo pan ddwedais,
“Dw iʼn dioddeʼn ofnadwy,”
11ond yna dweud mewn panig,
“Alla i ddim trystio unrhyw un.”
12Sut alla i dalu nôl iʼr ARGLWYDD
am fod mor dda tuag ata i?
13Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub,
a dw i am alw ar enwʼr ARGLWYDD.
14Dw i am gadw fy addewidion iʼr ARGLWYDD
o flaen ei bobl.
15Mae bywyd116:15 Hebraeg, “marwolaeth”. Gellid cyfieithuʼr adnod, “Mae marwolaeth pob un oʼi bobl ffyddlon yn gostus yng ngolwg yr ARGLWYDD” (cf. Salm 72:14). pob un oʼi bobl ffyddlon
yn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD.
16Plîs, ARGLWYDD,
dw i wir yn un o dy weision
ac yn blentyn i dy forwyn.
Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i.
17Dw iʼn cyflwyno offrwm i ddiolch i ti
ac yn galw ar enwʼr ARGLWYDD.
18Dw i am gadw fy addewidion iʼr ARGLWYDD
o flaen y bobl syʼn ei addoli
19yn ei deml yn Jerwsalem.
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015