No themes applied yet
Yr unig Dduw go iawn
1Nid ni, O ARGLWYDD, nid ni –
ti syʼn haedduʼr anrhydedd i gyd,
am ddangos y fath gariad a ffyddlondeb.
2Pam ddylai pobl y cenhedloedd ddweud,
“Ble mae eu Duw nhw nawr?”
3Y gwir ydy fod Duw yn y nefoedd,
ac yn gwneud beth bynnag mae e eisiau!
4Dydy eu heilunod nhwʼn ddim ond arian ac aur
wediʼu siapio gan ddwylo dynol.
5Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad;
llygaid, ond allan nhw ddim gweld;
6clustiau, ond allan nhw ddim clywed;
trwynau, ond allan nhw ddim arogli;
7dwylo, ond allan nhw ddim teimlo;
traed, ond allan nhw ddim cerdded;
a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn!
8Maeʼr bobl syʼn eu gwneud nhw,
aʼr bobl sydd yn eu haddoli nhw,
yn troiʼn debyg iddyn nhw!
9Israel, cred di yn yr ARGLWYDD!
Fe syʼn dy helpu di ac yn dy amddiffyn di.
10Chi offeiriaid, credwch yn yr ARGLWYDD!
Fe syʼn eich helpu ac yn eich amddiffyn chi.
11Chi syʼn addoliʼr ARGLWYDD, credwch yn yr ARGLWYDD!
Fe syʼn eich helpu chi ac yn eich amddiffyn chi.
12Maeʼr ARGLWYDD yn cofio amdanon ni,
a bydd yn ein bendithio ni –
bydd yn bendithio pobl Israel;
bydd yn bendithio teulu Aaron;
13bydd yn bendithioʼr rhai syʼn addoliʼr ARGLWYDD,
yn ifanc ac yn hen.
14Boed iʼr ARGLWYDD roi plant i chi;
ie, i chi aʼch plant hefyd!
15Boed iʼr ARGLWYDD, wnaeth greuʼr nefoedd aʼr ddaear,
eich bendithio chi!
16Yr ARGLWYDD sydd biauʼr nefoedd,
ond mae wedi rhoiʼr ddaear yng ngofal y ddynoliaeth.
17Dydyʼr meirw ddim yn gallu moliʼr ARGLWYDD,
maen nhw wedi mynd i dawelwch y bedd.
18Ond dŷn niʼn mynd i foliʼr ARGLWYDD
o hyn allan, ac am byth!
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015