No themes applied yet
Yr offrymau dyddiol
(Exodus 29:38-46)
1Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Rhoʼr gorchymyn yma i bobl Israel: ‘Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich offrymau i mi ar yr adegau iawn. Maeʼr offrymau yma syʼn cael eu llosgi ar yr allor fel bwyd syʼn arogliʼn hyfryd i mi.’ 3Dwed wrthyn nhw, ‘Dymaʼr offrwm sydd i gael ei losgi iʼr ARGLWYDD: Dau oen blwydd oed heb ddim byd oʼi le arnyn nhw, iʼw cyflwynoʼn rheolaidd fel offrwm iʼw losgiʼn llwyr. 4Rhaid iʼr oen cyntaf gael ei gyflwyno yn y bore, aʼr llall pan maeʼn dechrau nosi. 5Mae pob oen iʼw gyflwyno gyda cilogram oʼr blawd gwenith gorau wediʼi gymysgu gyda litr o olew olewydd. 6Maeʼr offrwm rheolaidd yma i gael ei losgiʼn llwyr. Cafodd ei sefydlu ar Fynydd Sinai, yn offrwm fyddaiʼn arogliʼn hyfryd iʼr ARGLWYDD. 7Ac mae offrwm o ddiod i fynd gydag e – litr am bob oen. Maeʼr cwrw haidd yma i gael ei dywallt yn offrwm iʼr ARGLWYDD yn y cysegr.
8“‘Yna, maeʼr ail oen i gael ei offrymu pan maeʼn dechrau nosi. Maeʼr un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod i fynd gydag e. Mae hwn eto i gael ei losgiʼn llwyr, yn offrwm syʼn arogliʼn hyfryd iʼr ARGLWYDD.
Offrwm y Saboth
9“‘Yna ar y Saboth: Dau oen blwydd oed arall heb ddim byd oʼi le arnyn nhw, a dau gilogram oʼr blawd gwenith gorau yn offrwm o rawn, wediʼi gymysgu gydag olew olewydd, aʼr offrwm o ddiod sydd i fynd gydag e hefyd. 10Maeʼr offrwm yma i gael ei losgi bob Saboth, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sydd i gael ei losgi, aʼr offrwm o ddiod syʼn mynd gyda hwnnw.
Yr offrymau ar ddiwrnod cyntaf pob mis
11“‘Ar ddiwrnod cyntaf pob mis, rhaid rhoiʼr canlynol yn offrwm iʼw losgiʼn llwyr iʼr ARGLWYDD: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed heb ddim byd oʼi le arnyn nhw. 12Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wediʼi gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram gyda pob tarw, dau gilogram gydaʼr hwrdd, 13a cilogram gyda pob un oʼr ŵyn. Mae pob un yn offrwm syʼn cael ei losgiʼn llwyr, ac yn rhodd syʼn arogliʼn hyfryd iʼr ARGLWYDD. 14Ac yn offrwm o ddiod gyda nhw: dau litr o win gyda pob tarw, litr a chwarter gydaʼr hwrdd, a litr gyda pob un oʼr ŵyn.
“‘Dymaʼr offrwm sydd iʼw losgiʼn rheolaidd bob mis drwyʼr flwyddyn. 15Wedyn rhaid i un bwch gafr gael ei gyflwyno iʼr ARGLWYDD yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd syʼn cael ei losgi, aʼr offrwm o ddiod syʼn mynd gyda hwnnw.
Offrymauʼr Pasg a Gŵyl y Bara Croyw
(Lefiticus 23:5-14)
16“‘Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu ar y pedwerydd ar ddeg oʼr mis cyntaf.28:16 mis cyntaf Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan), sef mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill. 28:16 Exodus 12:1-13; Deuteronomium 16:1,2 17Yna mae Gŵyl arall28:17 Lefiticus 23:6 yn dechrau ar y pymthegfed oʼr mis. Dim ond bara sydd heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta. 18Ar y diwrnod cyntaf, rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. 19Rhaid i chi gyflwyno rhodd iʼr ARGLWYDD bob dydd, sef offrwm iʼw losgiʼn llwyr – dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd oʼi le arnyn nhw. 20Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wediʼi gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, 21ac un cilogram ar gyfer pob oen. 22Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethauʼn iawn rhyngoch chi a Duw. 23Maeʼr rhain i gyd yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd syʼn cael ei losgiʼn llwyr bob bore. 24Maen nhw i gael eu hoffrymu bob dydd am saith diwrnod, yn fwyd iʼw losgi iʼr ARGLWYDD, ac syʼn arogliʼn hyfryd iddo. Maeʼr rhain yn ychwanegol at yr offrymau syʼn cael eu llosgiʼn rheolaidd, aʼr offrymau o ddiod syʼn mynd gyda nhw. 25Yna ar y seithfed diwrnod rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli eto. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
Offrymau Gŵyl y Cynhaeaf
(Lefiticus 23:15-22)
26“‘Ar ddiwrnod cynnyrch cyntaf y cynhaeaf, pan fyddwch yn dod âʼr offrwm o rawn newydd iʼr ARGLWYDD yn ystod Gŵyl y Cynhaeaf,28:26 Gŵyl y Cynhaeaf Hebraeg, “Gŵyl yr Wythnosau”. rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. 27Rhaid i chi gyflwynoʼr canlynol iʼw losgi iʼr ARGLWYDD, yn offrwm syʼn arogliʼn hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. 28Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wediʼi gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, 29ac un cilogram ar gyfer pob oen. 30Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethauʼn iawn rhyngoch chi a Duw. 31Maeʼr rhain i gyd, gydaʼu hoffrymau o ddiod, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd syʼn cael ei losgiʼn llwyr, aʼr offrwm o rawn syʼn mynd gyda hwnnw. A gwnewch yn siŵr fod dim byd oʼi le ar yr anifeiliaid syʼn cael eu hoffrymu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015