No themes applied yet
Merched Seloffchad
1Dyma ferched Seloffchad yn dod ymlaen. Roedd eu tad yn fab i Cheffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse – o glan Manasse fab Joseff. Enwauʼr merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa. 2Dyma nhwʼn dod a sefyll o flaen Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac arweinwyr y bobl i gyd, wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw. 3“Buodd dad farw yn yr anialwch,” medden nhw. “Doedd e ddim yn un oʼr rhai wnaeth wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD gyda Cora. Buodd e farw o achos ei bechod ei hun. Ond doedd ganddo fe ddim meibion. 4Pam ddylai enw dad ddiflannu o hanes y teulu am fod ganddo ddim meibion? Rho dir i ni ei etifeddu gyda brodyr ein tad.”
5Felly dyma Moses yn mynd âʼr achos o flaen yr ARGLWYDD. 6A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 7“Mae merched Seloffchad yn iawn. Rho dir iddyn nhw ei etifeddu gyda brodyr eu tad. Dylen nhw gael siâr eu tad oʼr tir. 8Felly rhaid i ti ddweud hyn wrth bobl Israel, ‘Os ydy dyn yn marw heb gael mab, rhaid iʼr etifeddiaeth gael ei rhoi iʼw ferch. 9Os oes ganddo ddim merch chwaith, rhaid iʼr etifeddiaeth fynd iʼw frodyr. 10Ac os oes ganddo ddim brodyr, maeʼr etifeddiaeth i fynd i frodyr ei dad. 11Ond os oes gan ei dad ddim brodyr chwaith, maeʼr etifeddiaeth i gael ei rhoi iʼr perthynas agosaf yn y teulu.’” Dyma fydd y drefn gyfreithiol yn Israel, yn union fel maeʼr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Josua i olynu Moses
(Deuteronomium 31:1-8)
12Yna dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dringa i ben mynyddoedd Afarîm, i ti weld y tir dw iʼn ei roi i bobl Israel. 13Ar ôl i ti gael ei weld, byddi di, fel Aaron dy frawd, yn marw, 14am iʼr ddau ohonoch chi wrthod gwneud beth ddwedais i yn anialwch Sin. Roedd y bobl wedi gwrthryfela a dangos dim parch ata i wrth y dŵr,” (sef Ffynnon Meriba yn Cadesh yn anialwch Sin).
15Yna dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD: 16“O ARGLWYDD, y Duw syʼn rhoi bywyd i bopeth byw, rhaid i ti benodi rhywun i arwain y bobl. 17Rhaid cael rhywun iʼw harwain nhw allan i ryfel, a dod â nhw adre wedyn, neu bydd pobl yr ARGLWYDD fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw!”
18-19A dymaʼr ARGLWYDD yn ateb, “Dw i eisiau i ti gymryd Josua fab Nwn – dyn sydd âʼr Ysbryd ynddo – aʼi gomisiynu e iʼr gwaith drwy osod dy law arno. Gwna hyn yn gyhoeddus o flaen Eleasar yr offeiriad aʼr bobl i gyd. 20Maen nhw i weld dy fod wedi trosglwyddoʼr awdurdod sydd gen ti iddo fe, ac wedyn byddan nhwʼn ufuddhau iddo. 21Bydd yn mynd at Eleasar yr offeiriad pan fydd angen arweiniad arno, a bydd Eleasar yn defnyddioʼr Wrim i ddarganfod beth maeʼr ARGLWYDD eisiau – pryd i fynd allan i ymladd, a pryd i ddod yn ôl.”
22Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Dyma feʼn gwneud i Josua sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad aʼr bobl i gyd. 23Yna dyma feʼn ei gomisiynu iʼr gwaith drwy osod ei ddwylo arno, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses am wneud.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015