No themes applied yet
Dienyddio Ioan Fedyddiwr
(Marc 6:14-29; Luc 9:7-9)
1Tuaʼr adeg yna clywodd y llywodraethwr Herod14:1 Herod: Herod Antipas, mab Herod Fawr (gw. 2:1). y straeon am Iesu. 2Dwedodd wrth ei swyddogion, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna pam maeʼn gallu gwneud gwyrthiau.”
3Herod oedd wedi arestio Ioan Fedyddiwr aʼi roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias, gwraig ei frawd, Philip. 4Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro: “Dydyʼr Gyfraith ddim yn caniatáu i ti ei chymryd hi.” 5Er bod Herod eisiau lladd Ioan, roedd ganddo ofn gwneud hynny am fod y bobl yn ystyried Ioan yn broffwyd.
6Ond yna, ar ddiwrnod pen-blwydd Herod dyma ferch Herodias yn perfformio dawns yn y parti. Roedd hi wedi plesio Herod gymaint 7nes iddo dyngu ar lw y byddaiʼn rhoi iddi beth bynnag oedd hiʼn gofyn amdano. 8Gydaʼi mam yn ei hannog, dwedodd wrtho, “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr, aʼi roi i mi ar hambwrdd.” 9Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl, ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, rhoddodd orchymyn iʼw roi iddi. 10Anfonodd filwyr iʼr carchar i dorri pen Ioan i ffwrdd. 11Wedyn, dyma nhwʼn dod âʼr pen ar hambwrdd aʼi roi iʼr ferch fach, a rhoddodd hithau e iʼw mam. 12Dyma ddisgyblion Ioan yn cymryd y corff aʼi gladdu, ac wedyn yn mynd i ddweud wrth Iesu beth oedd wedi digwydd.
Iesuʼn bwydoʼr pum mil
(Marc 6:30-44; Luc 9:10-17; Ioan 6:1-14)
13Pan glywodd Iesu beth oedd wedi digwydd, aeth i ffwrdd mewn cwch i le tawel i fod ar ei ben ei hun. Ond clywodd y tyrfaoedd am hyn, aʼi ddilyn ar droed oʼr trefi. 14Pan gyrhaeddodd Iesuʼr lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ei gyffwrdd iʼr byw, ac iachaodd y rhai oedd yn sâl.
15Pan oedd hiʼn dechrau nosi, dymaʼr disgyblion yn dod ato a dweud, “Maeʼr lle ymaʼn anial ac maeʼn mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd, iddyn nhw gael mynd iʼr pentrefi i brynu bwyd.”
16Atebodd Iesu, “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd. Rhowch chi rywbeth iʼw fwyta iddyn nhw.”
17Medden nhw wrtho, “Dim ond pum torth fach14:17 torth fach: Torth fach gron fflat, maeʼn debyg. a dau bysgodyn sydd gynnon ni.”
18“Dewch â nhw i mi,” meddai. 19A dwedodd wrth y bobl am eistedd i lawr ar y glaswellt. Wedyn cymerodd y pum torth aʼr ddau bysgodyn ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a rhoiʼr torthau iʼw ddisgyblion, a dymaʼr disgyblion yn eu rhannu iʼr bobl. 20Cafodd pawb ddigon iʼw fwyta, a dyma nhwʼn codi deuddeg llond basged o dameidiau oedd wediʼu gadael dros ben. 21Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!
Iesuʼn cerdded ar y dŵr
(Marc 6:45-52; Ioan 6:15-21)
22Dyma Iesuʼn gwneud iʼw ddisgyblion fynd yn ôl iʼr cwch a chroesi drosodd oʼi flaen. 23Ar ôl iddo anfon y dyrfa adre, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo. Roedd yno ar ei ben ei hun ac roedd hiʼn nosi. 24Erbyn hynny roedd y cwch yn bell oʼr tir, ac yn cael ei daro gan y tonnau am fod y gwynt yn ei erbyn.
25Yna, rywbryd ar ôl tri oʼr gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw gan gerdded ar y dŵr. 26Pan welodd y disgyblion eʼn cerdded ar y llyn, roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Ysbryd ydy e!” medden nhw, gan weiddi mewn ofn.
27Ond dyma Iesuʼn dweud wrthyn nhw, “Maeʼn iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.”
28“Arglwydd, os mai ti sydd yna” meddai Pedr, “gad i mi ddod atat ti ar y dŵr.”
29“Iawn, tyrd,” meddai Iesu. Yna camodd Pedr allan oʼr cwch a dechrau cerdded ar y dŵr tuag at Iesu. 30Ond pan welodd mor gryf oedd y gwynt, roedd arno ofn. Dechreuodd suddo, a gwaeddodd allan, “Achub fi, Arglwydd!”
31Dyma Iesuʼn estyn ei law a gafael ynddo. “Ble mae dy ffydd di?” meddai wrtho, “Pam wnest ti amau?”
32Wrth iddyn nhw ddringo i mewn iʼr cwch dymaʼr gwynt yn tawelu. 33Dymaʼr rhai oedd yn y cwch yn ei addoli, a dweud, “Ti ydy Mab Duw, go iawn.”
Iesu yn iacháu pobl yn Genesaret
(Marc 6:53-56)
34Ar ôl croesiʼr llyn, dyma nhwʼn glanio yn Genesaret. 35Dymaʼr dynion yno yn nabod Iesu, ac yn anfon i ddweud wrth bawb drwyʼr ardal i gyd. Roedd pobl yn dod â phawb oedd yn sâl ato 36ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015