No themes applied yet
Storiʼr ffermwr yn hau
(Marc 4:1-12; Luc 8:4-10)
1Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan ac eistedd ar lan Llyn Galilea. 2Roedd cymaint o dyrfa wedi casglu oʼi gwmpas nes bod rhaid iddo fynd i eistedd mewn cwch tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan. 3Roedd yn defnyddio llawer o straeon i rannu ei neges gyda nhw: “Aeth ffermwr allan i hau had. 4Wrth iddo wasgaruʼr had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dymaʼr adar yn dod aʼi fwyta. 5Dyma beth oʼr had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn, 6ond yn yr haul poeth dymaʼr tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau. 7Yna dyma beth oʼr had yn syrthio i ganol drain, ond tyfodd y drain a thaguʼr planhigion. 8Ond syrthiodd peth oʼr had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – beth ohono gan gwaith, chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na chafodd ei hau.”
9“Gwrandwch yn ofalus os dych chiʼn awyddus i ddysgu!”
10Daeth y disgyblion ato a gofyn, “Pam wyt tiʼn dweud y straeon yma wrthyn nhw?”
11Dyma oedd ei ateb: “Dych chiʼn cael gwybod beth ydyʼr gyfrinach am deyrnasiad yr Un nefol, ond dydyn nhw ddim. 12Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy, a byddan nhw ar ben eu digon! Ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim – bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw. 13Dyna pam dw iʼn defnyddio straeon i siarad â nhw. Er eu bod yn edrych, dŷn nhw ddim yn gweld; er eu bod yn gwrando, dŷn nhw ddim yn clywed nac yn deall. 14Ynddyn nhw maeʼr hyn wnaeth Eseia ei broffwydo yn dod yn wir:
‘Byddwch chiʼn gwrandoʼn astud, ond byth yn deall;
Byddwch chiʼn edrych yn ofalus, ond byth yn dirnad.
15Maen nhwʼn rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth –
maen nhwʼn fyddar,
ac wedi cau eu llygaid.
Fel arall, bydden nhwʼn gweld âʼu llygaid,
yn clywed âʼu clustiau,
yn deall go iawn, ac yn troi,
a byddwn iʼn eu hiacháu nhw’.13:14,15 Eseia 6:9,10 (LXX)
16Ond dych chiʼn cael y fath fraint o weld a chlywed y cwbl! 17Wir i chi, mae llawer o broffwydi a phobl dduwiol wedi hiraethu am gael gweld beth dych chiʼn ei weld a chlywed beth dych chiʼn ei glywed, ond chawson nhw ddim.
Iesuʼn esbonio storiʼr ffermwr yn hau
(Marc 4:13-20; Luc 8:11-15)
18“Felly dyma beth ydy ystyr storiʼr ffermwr yn hau: 19Pan mae rhywun yn clywed y neges am y deyrnas a ddim yn deall, maeʼr Un drwg yn dod ac yn cipio beth gafodd ei hau yn y galon. Dynaʼr had ddisgynnodd ar y llwybr. 20Yr had syʼn syrthio ar dir creigiog ydyʼr sawl syʼn derbyn y neges yn frwd i ddechrau. 21Ond dydyʼr neges ddim yn gafael yn y person go iawn, ac felly dydy e ddim yn paraʼn hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am ei fod wedi credu, maeʼn troi cefn yn ddigon sydyn! 22Wedyn yr had syrthiodd i ganol drain ydyʼr sawl syʼn clywed y neges, ond maeʼn rhy brysur yn poeni am hyn aʼr llall ac yn ceisio gwneud arian. Felly maeʼr neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth iʼw weld yn ei fywyd. 23Ond yr had syʼn syrthio ar dir da ydyʼr sawl syʼn clywed y neges ac yn ei deall. Maeʼr effaith fel cnwd anferth – can gwaith neu chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na gafodd ei hau.”
Storiʼr chwyn
24Dwedodd Iesu stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel dyn yn hau had da yn ei gae. 25Tra oedd pawb yn cysgu, dyma rywun oedd yn ei gasáu yn hau chwyn yng nghanol y gwenith. 26Pan ddechreuodd y gwenith egino a thyfu, daeth y chwyn iʼr golwg hefyd.
27“Aeth gweision y ffermwr ato a dweud, ‘Feistr, onid yr had gorau gafodd ei hau yn dy gae di? O ble maeʼr holl chwyn yma wedi dod?’
28“‘Rhywun syʼn fy nghasáu i syʼn gyfrifol am hyn’ meddai.
“‘Felly, wyt ti am i ni fynd i godiʼr chwyn?’ meddai ei weision.
29“‘Na,’ meddaiʼr dyn, ‘Rhag ofn i chi godi peth oʼr gwenith wrth dynnuʼr chwyn. 30Gadewch iʼr gwenith aʼr chwyn dyfu gydaʼi gilydd. Wedyn pan ddawʼr cynhaeaf bydda iʼn dweud wrth y rhai fydd yn casgluʼr cynhaeaf: Casglwch y chwyn gyntaf, aʼu rhwymoʼn fwndeli iʼw llosgi; wedyn cewch gasgluʼr gwenith aʼi roi yn fy ysgubor.’”
Storiʼr hedyn mwstard a storiʼr burum
(Marc 4:30-34; Luc 13:18-21)
31Dwedodd stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei gae. 32Er mai dymaʼr hedyn lleia un, maeʼn tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Maeʼn tyfuʼn goeden y gall yr adar ddod i nythu yn ei changhennau!”
33Dwedodd stori arall eto: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd aʼi gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwyʼr toes i gyd.”
Iesuʼn adrodd straeon
(Marc 4:33-34)
34Roedd Iesuʼn dweud popeth wrth y dyrfa drwy adrodd straeon; doedd eʼn dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun. 35Felly roedd beth ddwedodd Duw drwyʼr proffwyd13:35 proffwyd: proffwyd Eseia yn rhai llawysgrifau. yn dod yn wir:
“Siaradaf drwy adrodd straeon,
Dwedaf bethau syʼn ddirgelwch ers iʼr byd gael ei greu.”13:35 Salm 78:2
Esbonio storiʼr chwyn
36Gadawodd Iesu y dyrfa a mynd i mewn iʼr tŷ. Aeth ei ddisgyblion i mewn ato a gofyn iddo, “Wnei di esbonioʼr stori am y chwyn i ni?”
37Atebodd Iesu, “Fi, Mab y Dyn, ydyʼr un syʼn hau yr had da. 38Y byd ydyʼr cae, ac maeʼr hadau da yn cynrychioliʼr bobl syʼn perthyn iʼr deyrnas. Y bobl syʼn perthyn iʼr un drwg ydyʼr chwyn, 39aʼr gelyn syʼn eu hau nhw ydyʼr diafol. Diwedd y byd ydyʼr cynhaeaf, aʼr angylion ydyʼr rhai fydd yn casgluʼr cynhaeaf.
40“Dyma fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd: Fel y chwyn syʼn cael eu casglu iʼw llosgi, 41bydd Mab y Dyn yn anfon yr angylion allan. Byddan nhwʼn chwynnu o blith y rhai syʼn perthyn iʼw deyrnas bawb syʼn gwneud i bobl bechu, a phawb syʼn gwneud drwg. 42Bydd yr angylion yn eu taflu nhw iʼr ffwrnais, lle bydd pobl yn wyloʼn chwerw ac mewn artaith. 43Wedyn, pan ddaw eu Tad nefol i deyrnasu, bydd y bobl wnaeth beth syʼn iawn yn disgleirio fel yr haul. Gwrandwch yn ofalus os dych chiʼn awyddus i ddysgu.
Storiʼr trysor cudd a storiʼr perl gwerthfawr
44“Mae teyrnasiad yr Un nefol fel trysor wediʼi guddio mewn cae. Dyma rywun yn ei ffeindio ac ynaʼn ei guddio eto, wedyn mynd yn llawen a gwerthu popeth oedd ganddo er mwyn gallu prynuʼr cae hwnnw.
45“Mae teyrnasiad yr Un nefol hefyd yn debyg i fasnachwr yn casglu perlau gwerthfawr. 46Ar ôl dod o hyd i un perl arbennig o werthfawr, maeʼn mynd i ffwrdd ac yn gwerthuʼr cwbl sydd ganddo er mwyn gallu prynuʼr un perl hwnnw.
Storiʼr rhwyd
47“Unwaith eto, mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i rwyd syʼn cael ei gollwng iʼr llyn a phob math o bysgod yn cael eu dal ynddi. 48Maeʼr pysgotwyr yn llusgoʼr rhwyd lawn iʼr lan. Wedyn maeʼr pysgod da yn cael eu cadw aʼu storio, ond y pysgod diwerth yn cael eu taflu i ffwrdd. 49Dyna fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd. Bydd yr angylion yn dod i gasgluʼr bobl ddrwg o blith y bobl wnaeth beth syʼn iawn, 50ac yn eu taflu nhw iʼr ffwrnais dân, lle bydd pobl yn wyloʼn chwerw ac mewn artaith.
51“Ydych chi wedi deall hyn i gyd?” gofynnodd Iesu.
“Ydyn,” medden nhw.
52Yna meddai wrthyn nhw, “Felly mae pob arbenigwr yn yr ysgrifau sanctaidd sydd wedi ymostwng i deyrnasiad yr Un nefol fel perchennog tir syʼn dod â thrysorau newydd a hen allan oʼi ystordy.”
Pobl Nasareth yn troi yn ei erbyn
(Marc 6:1-6; Luc 4:16-30)
53Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y straeon yma, aeth yn ôl 54i Nasareth lle cafodd ei fagu. Dechreuodd ddysguʼr bobl yn eu synagog, ac roedden nhwʼn rhyfeddu ato. “Ble gafodd hwn y fath ddoethineb, aʼr gallu yma i wneud gwyrthiau?” medden nhw. 55“Mab y saer ydy e! Onid Mair ydy ei fam? Onid Iago, Joseff, Simon a Jwdas ydy ei frodyr? 56Mae ei chwiorydd i gyd yn byw yma! Felly, ble cafodd e hyn i gyd?” 57Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn. Ond dyma Iesuʼn dweud wrthyn nhw: “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn yr ardal lle cafodd ei fagu, a chan ei deulu ei hun!”
58Wnaeth Iesu ddim llawer o wyrthiau yno am eu bod nhw ddim yn credu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015