No themes applied yet
Iesu a Ioan Fedyddiwr
(Luc 7:18-35)
1Pan oedd Iesu wedi gorffen dysgu ei ddeuddeg disgybl, aeth yn ei flaen ar ei daith o gwmpas trefi Galilea yn dysgu ac yn pregethu.
2Pan glywodd Ioan Fedyddiwr, oedd yn y carchar, beth oedd Crist yn ei wneud, anfonodd ei ddisgyblion 3i ofyn iddo, “Ai ti ydyʼr Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?”
4Ateb Iesu oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wediʼi glywed aʼi weld: 5Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl syʼn dioddef oʼr gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac maeʼr newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd!11:5 a Eseia 35:5,6; b Eseia 61:1 6Ac un peth arall: Mae bendith fawr i bwy bynnag sydd ddim yn colli hyder ynddo i.”
7Wrth i ddisgyblion Ioan adael, dechreuodd Iesu siarad âʼr dyrfa am Ioan: “Sut ddyn aethoch chi allan iʼr anialwch iʼw weld? Brwynen wan yn cael ei chwythu i bob cyfeiriad gan y gwynt? 8Na? Pam aethoch chi allan felly? I weld dyn mewn dillad crand? Wrth gwrs ddim! Mewn palasau mae pobl grand yn byw! 9Felly, pam aethoch chi allan? I weld proffwyd? Ie, a dw iʼn dweud wrthoch chi ei fod eʼn fwy na phroffwyd. 10Dymaʼr un maeʼr ysgrifau sanctaidd yn sôn amdano:
‘Edrych! – dw iʼn anfon fy negesydd o dy flaen di,
i baratoiʼr ffordd i ti.’11:10 Malachi 3:1
11Wir i chi, mae Ioan Fedyddiwr yn fwy na neb arall sydd wedi byw erioed. Ac eto maeʼr person lleia pwysig yn nheyrnas yr Un nefol yn fwy nag e. 12Ers i Ioan ddechrau pregethu, mae teyrnas yr Un nefol wedi bod yn torri allan yn rymus, aʼr rhai syʼn rhuthro trwodd yn cael gafael ynddi. 13Achos roedd yr holl broffwydi a Chyfraith Moses yn sôn am y peth fel rhywbeth oedd i ddigwydd yn y dyfodol, nes i Ioan ddod iʼr golwg. 14Felly, os dych chiʼn fodlon derbyn y peth, fe ydyʼr Elias oedd i ddod. 15Gwrandwch yn ofalus os dych chiʼn awyddus i ddysgu.
16“Sut mae disgrifioʼr genhedlaeth yma? Mae hi fel plant yn eistedd yn sgwâr y farchnad yn cwyno am ei gilydd fel hyn:
17‘Roedden niʼn chwarae priodas,
ond wnaethoch chi ddim dawnsio;
Roedden niʼn chwarae angladd,
ond wnaethoch chi ddim galaru.’
18Am fod Ioan ddim yn bwyta nac yn yfed fel pawb arall, roedden nhwʼn dweud, ‘Mae yna gythraul ynddo.’ 19Ond wedyn dyma fi, Mab y Dyn yn dod, yn bwyta ac yn yfed, a maen nhwʼn dweud, ‘Y bolgi! Meddwyn syʼn diota a stwffioʼi hun ydy e! Ffrind iʼr twyllwyr syʼn casglu trethi i Rufain ac i bechaduriaid eraill!’ Gallwch nabod doethineb go iawn yn ôl pa mor gyson ydyʼr dadleuon!”
Gwaeʼr trefi syʼn gwrthod troi at Dduw
(Luc 10:13-15)
20Dechreuodd Iesu feirniadu pobl y trefi hynny lle gwnaeth y rhan fwyaf oʼi wyrthiau, am eu bod heb droi at Dduw. 21“Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petaiʼr gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddaiʼr bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar drwy wisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau. 22Wir i chi, bydd hiʼn well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi! 23A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt tiʼn meddwl y byddi diʼn cael dy anrhydeddu? Na, byddi diʼn cael dy fwrw i lawr iʼr dyfnder tywyll! Petaiʼr gwyrthiau wnes i ynot ti wedi digwydd yn Sodom, byddai Sodom yn dal yma heddiw!11:23 a Eseia 14:13-15; b Genesis 19:24-28 24Wir i chi, bydd hiʼn well ar Sodom ar ddydd y farn nag arnat ti!”
Gorffwys iʼr blinedig
(Luc 10:21,22)
25Bryd hynny dyma Iesuʼn dweud, “Fy Nhad, Arglwydd y nefoedd aʼr ddaear. Diolch i ti am guddioʼr pethau yma oddi wrth y bobl syʼn meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, aʼu dangos i rai syʼn agored fel plant bach. 26Ie, fy Nhad, dyna syʼn dy blesio di.
27“Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, aʼr rhai hynny maeʼr Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.
28“Dewch ata i, bawb syʼn cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi. 29Dewch gyda mi o dan fy iau,11:29 iau: Roedd iau yn cael ei osod ar ysgwyddau anifeiliaid oedd yn tynnu aradr neu drol. er mwyn i chi ddysgu gen i. Dw iʼn addfwyn ac yn ostyngedig, a chewch chi orffwys. 30Mae fy iau i yn gyfforddus a dw i ddim yn gosod beichiau trwm ar bobl.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015