No themes applied yet
Iesuʼn iacháu dyn wediʼi barlysu
(Mathew 9:1-8; Luc 5:17-26)
1Ychydig ddyddiau wedyn, aeth Iesu yn ôl i Capernaum. Aeth y si o gwmpas ei fod wedi dod adre, 2a daeth tyrfa mor fawr iʼw weld nes bod dim lle hyd yn oed i sefyll y tu allan iʼr drws. Dyma Iesuʼn cyhoeddi neges Duw iddyn nhw. 3Yna daeth rhyw bobl â dyn oedd wediʼi barlysu ato. Roedd pedwar yn ei gario, 4ond yn methu mynd yn agos at Iesu am fod yno gymaint o dyrfa. Felly dyma nhwʼn torri twll yn y to uwch ei ben, a gollwng y dyn i lawr ar y fatras oedd yn gorwedd arni. 5Pan welodd Iesuʼr ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wediʼi barlysu, “Ffrind, mae dy bechodau wediʼu maddau.”
6Roedd rhai oʼr arbenigwyr yn y Gyfraith yno. Yr hyn oedd yn mynd drwyʼu meddyliau nhw oedd, 7“Sut maeʼn gallu dweud y fath beth? Cabledd ydy dweud peth felly! Duw ydyʼr unig un syʼn gallu maddau pechodau!”
8Roedd Iesuʼn gwybod yn iawn mai dyna oedden nhwʼn ei feddwl, ac meddai wrthyn nhw, “Pam dych chiʼn meddwl mod iʼn cablu? 9Ydyʼn haws dweud wrth y dyn ‘Mae dy bechodau wediʼu maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed, cymer dy fatras a cherdda’? 10Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear!” A dyma Iesuʼn troi at y dyn oedd wediʼi barlysu, a dweud wrtho, 11“Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.” 12A dynaʼn union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed yn y fan aʼr lle, cymryd ei fatras, a cherdded allan o flaen pawb. Roedd pawb wediʼu syfrdanuʼn llwyr, ac yn moli Duw. “Dŷn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn!” medden nhw.
Galw Lefi
(Mathew 9:9-13; Luc 5:27-32)
13Aeth Iesu allan at y llyn unwaith eto. Daeth tyrfa fawr o bobl ato, ac roedd yn eu dysgu. 14Yna wrth fynd yn ei flaen, gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Lefi ar unwaith a mynd ar ei ôl.
15Yn nes ymlaen aeth Iesu aʼi ddisgyblion am bryd o fwyd i dŷ Lefi. Roedd criw mawr oʼr rhai oedd yn casglu trethi i Rufain yn y parti hefyd, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‘bechaduriaid’. (Pobl felly oedd llawer oʼr rhai oedd yn dilyn Iesu.) 16Wrth iddyn nhw ei weld eʼn bwyta gyda ‘pechaduriaid’ a chasglwyr trethi, dyma rai oʼr Phariseaid oedd yn arbenigwyr yn y Gyfraith yn gofyn iʼw ddisgyblion: “Pam mae eʼn bwyta gydaʼr bradwyr syʼn casglu trethi i Rufain, a phobl eraill syʼn ddim byd ond ‘pechaduriaid’?”
17Clywodd Iesu hyn, a dwedodd wrthyn nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl syʼn sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim y rhai syʼn meddwl eu bod nhw heb fai.”
Holi Iesu am ymprydio
(Mathew 9:14-17; Luc 5:33-39)
18Roedd disgyblion Ioan aʼr Phariseaid yn ymprydio (hynny ydy, peidio bwyta am gyfnod er mwyn ceisio canolbwyntioʼn llwyr ar Dduw). Felly dyma rhyw bobl yn gofyn i Iesu, “Mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?”
19Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i ymprydio! Maen nhw yno i ddathlu gydaʼr priodfab. Maen nhw yno i fwynhau eu hunain! 20Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhwʼn ymprydio bryd hynny.
21“Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddaiʼr brethyn newydd yn tynnu ar yr hen ac yn achosi rhwyg gwaeth. 22A does neb yn tywallt gwin sydd heb aeddfedu i hen boteli crwyn. Byddaiʼr crwyn yn byrstio wrth iʼr gwin aeddfedu, aʼr poteli aʼr gwin yn cael eu difetha. Na, rhaid defnyddio poteli crwyn newydd iʼw ddal.”
Arglwydd y Saboth
(Mathew 12:1-8; Luc 6:1-5)
23Roedd Iesuʼn croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dymaʼi ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai oʼr tywysennau ŷd.2:23 tynnu rhai oʼr tywysennau ŷd: Roedd gan deithwyr hawl i wneud hyn. 2:23 Deuteronomium 23:25 24“Edrych!” meddaiʼr Phariseaid, “Pam mae dy ddisgyblion yn torri rheolauʼr Gyfraith ar y Saboth?”
25Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi erioed wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e aʼi griw o ddilynwyr yn llwgu?2:25-26 gw. 1 Samuel 21:1-6 26Pan oedd Abiathar yn archoffeiriad aeth i mewn i dŷ Dduw a bwytaʼr bara oedd wediʼi gysegru aʼi osod yn offrwm i Dduw. Maeʼr Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid syʼn cael ei fwyta,2:26 gw. Lefiticus 24:9 ond cymerodd Dafydd beth, aʼi roi iʼw ddilynwyr hefyd.”
27Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cafodd y dydd Saboth ei roi er lles pobl, dim i gaethiwo pobl. 28Felly mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth syʼn iawn hyd yn oed ar y Saboth.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015