No themes applied yet
Anfon Ysbiwyr i Jericho
1Dyma Josua fab Nwn yn anfon dau ysbïwr allan oʼr gwersyll yn Sittim, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi ddarganfod beth allwch chi am y wlad, yn arbennig tref Jericho.” Felly, i ffwrdd â nhw, a dyma nhwʼn mynd i dŷ putain oʼr enw Rahab, ac aros yno dros nos.
2Ond dyma rywun yn dweud wrth frenin Jericho, “Mae rhai o ddynion Israel wedi dod yma i ysbïoʼr wlad.” 3Felly dymaʼr brenin yn anfon milwyr at Rahab, “Tyrd â dy gwsmeriaid allan – y dynion sydd wedi dod i aros yn dy dŷ di. Ysbiwyr ydyn nhw, wedi dod i edrych dros y wlad.” 4Ond roedd Rahab wedi cuddioʼr dynion, a dyma hiʼn ateb, “Maeʼn wir, roedd yna ddynion wedi dod ata i, ond doeddwn i ddim yn gwybod o ble roedden nhwʼn dod. 5Pan oedd hiʼn tywyllu, a giât y ddinas ar fin cael ei chau dros nos, dyma nhwʼn gadael. Dw i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad aethon nhw. Os brysiwch chi, gallwch chi eu dal nhw!” 6(Ond beth roedd Rahab wediʼi wneud go iawn oedd mynd âʼr dynion i ben toʼr tŷ, aʼu cuddio nhw dan y pentyrrau o lin roedd hi wediʼu gosod allan yno.)
7Felly dyma weision y brenin yn mynd i chwilio amdanyn nhw ar hyd y ffordd syʼn arwain at afon Iorddonen, lle maeʼr rhydau. A dyma giât y ddinas yn cael ei chau yn syth ar ôl iddyn nhw fynd.
8Cyn iʼr ysbiwyr fynd i gysguʼr noson honno, dyma Rahab yn mynd i fyny iʼr to i siarad gyda nhw. 9Meddai wrthyn nhw, “Dw iʼn gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD yn mynd i roiʼr wlad yma i chi. Mae gan bawb eich ofn chi. Mae pawb yn ofni am eu bywydau. 10Dŷn ni wedi clywed sut wnaeth yr ARGLWYDD sychuʼr Môr Coch2:10 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”. oʼch blaenau chi pan ddaethoch chi allan oʼr Aifft. A hefyd, sut wnaethoch chi ddinistrio dau frenin yr Amoriaid, Sihon ac Og, yr ochr arall i afon Iorddonen.2:10 a Exodus 14:21; b Numeri 21:21-35 11Pan glywson ni am y peth roedden ni wedi digalonniʼn llwyr. Roedd pawb mewn panig. Maeʼr ARGLWYDD eich Duw chi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear! 12Dw i eisiau i chi fynd ar eich llw, ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, y byddwch chiʼn arbed bywydau fy nheulu i, fel dw i wedi arbed eich bywydau chi. Rhowch arwydd sicr i mi 13na fyddwch chiʼn lladd neb yn fy nheulu – dad, mam, fy mrodyr aʼm chwiorydd, na neb arall yn y teulu.”
14A dymaʼr dynion yn addo iddi, “Os wnei di ddim dweud wrth neb amdanon ni, byddwn niʼn cadwʼn haddewid i ti pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoiʼr wlad yma i ni. Boed i ni dalu gydaʼn bywydau os cewch chiʼch lladd!”
15Yna dyma Rahab yn eu gollwng nhw i lawr ar raff o ffenest ei thŷ. (Roedd wal allanol ei thŷ hi yn rhan o wal y ddinas.) 16“Ewch i gyfeiriad y bryniau,” meddai wrthyn nhw. “Fydd y dynion sydd ar eich ôl chi ddim yn dod o hyd i chi wedyn. Cuddiwch yno am dri diwrnod, i roi cyfle iddyn nhw ddod yn ôl. Wedyn gallwch fynd ar eich ffordd.” 17Dymaʼr dynion yn dweud wrthi, “Allwn ni ddim ond cadwʼr addewid wnaethon ni i ti ar un amod: 18Pan fyddwn niʼn ymosod ar y wlad, rhwymaʼr rhaff goch yma iddi hongian allan oʼr ffenest wnaethon ni ddianc drwyddi. A rhaid i ti gasglu dy deulu i gyd at ei gilydd yn y tŷ – dy dad, dy fam, dy frodyr a dy chwiorydd, a phawb arall. 19Os bydd unrhyw un yn gadael y tŷ ac yn cael ei ladd, nhw eu hunain fydd ar fai – fydd dim bai arnon ni. Ond os bydd unrhyw un sydd yn y tŷ yn cael niwed, ni fydd yn gyfrifol. 20Ond os byddi diʼn dweud wrth unrhyw un amdanon ni, fyddwn ni ddim yn gyfrifol am dorriʼr addewid.”
21“Digon teg,” meddai hithau. A dyma hiʼn eu hanfon nhw i ffwrdd, ac yn rhwymoʼr rhaff goch iʼr ffenest. 22Dyma nhwʼn mynd iʼr bryniau, ac yn aros yno am dri diwrnod – digon o amser iʼr dynion oedd yn chwilio amdanyn nhw fynd yn ôl. Roedd y rheiny wedi bod yn edrych amdanyn nhw ym mhobman ar hyd y ffordd, ond wedi methu dod o hyd iddyn nhw.
23Yna dymaʼr ddau ddyn yn troi am yn ôl. Dyma nhwʼn dod i lawr oʼr bryniau, croesi afon Iorddonen, a mynd at Josua i roi adroddiad iddo o beth oedd wedi digwydd. 24“Does dim amheuaeth,” medden nhw. “Maeʼr ARGLWYDD yn mynd i roiʼr wlad i gyd i ni! Maeʼr bobl i gyd yn ofni am eu bywydau!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015