No themes applied yet
Sedeceia yn gofyn am help Jeremeia
1Sedeceia, mab i Joseia, wnaeth olynu Jehoiachin37:1 Hebraeg, Coneia, enw arall ar Jehoiachin; buodd yn frenin am dri mis yn 598 CC. fab Jehoiacim yn frenin ar Jwda. Cafodd Sedeceia ei benodiʼn frenin gan Nebwchadnesar, brenin Babilon.37:1 2 Brenhinoedd 24:17; 2 Cronicl 36:10 2Ond wnaeth e aʼi swyddogion, naʼr bobl gyffredin chwaith, ddim gwrando ar beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwyʼr proffwyd Jeremeia.
3Er hynny, dymaʼr Brenin Sedeceia yn anfon Iehwchal fab Shelemeia aʼr offeiriad Seffaneia fab Maaseia at Jeremeia. Dwedodd wrthyn nhw am ofyn iddo, “Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu ni.” 4(Ar y pryd roedd Jeremeiaʼn dal yn rhydd i fynd a dod. Doedd e ddim eto wedi cael ei roi yn y carchar.) 5Roedd byddin Babilon wedi stopio ymosod ar Jerwsalem am y tro. Roedden nhw wedi clywed fod byddin y Pharo37:5 Pharo Apries, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Hoffra, oedd yn frenin yr Aifft o 589 i 570 CC – gw. Jeremeia 44:30. yn dod i fyny oʼr Aifft, ac felly dyma nhwʼn gadael Jerwsalem.
6A dymaʼr ARGLWYDD yn rhoi neges i Jeremeia: 7“Dyma maeʼr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dwedwch wrth frenin Jwda wnaeth eich anfon chi ata i am help: ‘Bydd byddin y Pharo, sydd ar ei ffordd iʼch helpu chi, yn mynd yn ôl adre iʼr Aifft, 8a bydd y Babiloniaid yn dod yn ôl i ymosod ar y ddinas yma. Byddan nhwʼn ei choncro ac yn ei llosgiʼn ulw.’ 9Maeʼr ARGLWYDD yn dweud: ‘Peidiwch twylloʼch hunain i feddwl y bydd y Babiloniaid yn mynd i ffwrdd ac yn gadael llonydd i chi. Fyddan nhw ddim yn mynd i ffwrdd. 10Hyd yn oed petaech chiʼn llwyddo i ddinistrioʼr fyddin syʼn dod i ymladd yn eich erbyn chi, a gadael dim ond llond dwrn o ddynion wediʼu hanafu yn gorwedd yn eu pebyll, bydden nhwʼn codi eto ac yn llosgiʼr ddinas ymaʼn ulw.’”
Jeremeiaʼn cael ei garcharu
11Roedd byddin Babilon wedi gadael Jerwsalem am fod byddin y Pharo ar ei ffordd, 12a dyma Jeremeiaʼn cychwyn allan o Jerwsalem i fynd adre i ardal Benjamin. Roedd yn mynd i dderbyn ei siâr e oʼr tir oedd piauʼr teulu. 13Ond pan gyrhaeddodd Giât Benjamin dyma gapten y gwarchodlu, sef Ireia (mab Shelemeia ac ŵyr i Chananeia), yn ei stopio. “Tiʼn mynd drosodd at y Babiloniaid!” meddai wrtho. 14Ond dyma Jeremeiaʼn ateb, “Na, dydy hynny ddim yn wir. Dw i ddim yn mynd drosodd at y Babiloniaid.” Ond roedd Ireiaʼn gwrthod gwrando arno, a dyma feʼn arestio Jeremeia a mynd ag e at y swyddogion. 15Roedd y swyddogion yn wyllt gynddeiriog hefo Jeremeia. Ar ôl ei guro dyma nhwʼn ei garcharu yn nhŷ Jonathan, yr ysgrifennydd brenhinol – roedd y tŷ wedi cael ei droiʼn garchar.
16Felly roedd Jeremeia yn y carchar, wediʼi roi mewn dwnsiwn. A buodd yno am amser hir.
17Dymaʼr Brenin Sedeceia yn anfon am Jeremeia, a dod ag e iʼr palas iʼw holiʼn gyfrinachol. “Oes gen ti neges gan yr ARGLWYDD?” meddai. “Oes,” meddai Jeremeia. “Tiʼn mynd i gael dy roi yn nwylo brenin Babilon!”
18Wedyn dyma Jeremeiaʼn gofyn iʼr brenin, “Pa ddrwg dw i wediʼi wneud i ti, neu i dy swyddogion, neu iʼr bobl yma? Pam dych chi wedi fy nhaflu i iʼr carchar? 19A ble maeʼr proffwydi hynny wnaeth broffwydo y byddai brenin Babilon ddim yn ymosod ar y wlad yma? 20Plîs gwranda arna i, fʼarglwydd frenin. Dw iʼn pledio am drugaredd. Bydda iʼn marw os gwnei di fʼanfon iʼn ôl iʼr carchar yna yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd.” 21Felly dymaʼr Brenin Sedeceia yn gorchymyn cadw Jeremeia yn iard y gwarchodlu. Rhoddodd orchymyn hefyd ei fod i gael dogn o fara ffres o Stryd y Pobyddion bob dydd, o leia tra oedd bara iʼw gael yn y ddinas.
Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn iard y gwarchodlu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015