No themes applied yet
Jeremeiaʼn dioddef am gyhoeddi neges yr ARGLWYDD
(36:1–45:5)
Barŵch yn darllen y sgrôl yn y deml
1Yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda,36:1 y bedwaredd … ar Jwda 604–605 CC. dymaʼr ARGLWYDD yn rhoiʼr neges yma i Jeremeia: 2“Cymer sgrôl,36:2 sgrôl Rholyn o bapurfrwyn neu ledr gydag ysgrifen arno. ac ysgrifennu arni bopeth dw i wediʼi ddweud wrthot ti am Israel a Jwda aʼr gwledydd eraill i gyd. Ysgrifenna bopeth dw i wediʼi ddweud ers i mi ddechrau siarad gyda ti yn y cyfnod pan oedd Joseia yn frenin. 3Pan fydd pobl Jwda yn clywed am yr holl bethau ofnadwy dw iʼn bwriadu eu gwneud iddyn nhw, falle y byddan nhwʼn stopio gwneud yr holl bethau drwg maen nhwʼn eu gwneud, a bydda iʼn maddau iddyn nhw am y drwg aʼr pechod maen nhw wedi ei wneud.”
4Felly, dyma Jeremeia yn galw am Barŵch fab Nereia iʼw helpu. Wrth i Jeremeia adrodd pob un neges roedd yr ARGLWYDD wediʼi rhoi iddo, roedd Barŵch yn ysgrifennuʼr cwbl i lawr ar y sgrôl. 5Wedyn dyma Jeremeia yn dweud wrth Barŵch, “Dw iʼn cael fy rhwystro rhag mynd i mewn i deml yr ARGLWYDD. 6Felly dos di yno y tro nesa mae pobl trefi Jwda yn mynd i ymprydio. Dw i eisiau i ti ddarllen yn gyhoeddus yr holl negeseuon rwyt ti wediʼu hysgrifennu yn y sgrôl, yn union fel gwnes i eu hadrodd nhw. 7Falle y gwnân nhw bledio ar yr ARGLWYDD i faddau iddyn nhw, ac y gwnân nhw stopio gwneud y pethau drwg maen nhw wedi bod yn eu gwneud. Maeʼr ARGLWYDD wedi dweud yn glir ei fod e wedi gwylltioʼn lân gyda nhw.” 8Felly dyma Barŵch yn gwneud yn union fel roedd Jeremeia wedi dweud wrtho. Aeth i deml yr ARGLWYDD a darllen negeseuon yr ARGLWYDD oʼr sgrôl.
9Roedd pobl Jerwsalem aʼr holl bobl oedd wedi dod i mewn o drefi Jwda yn cynnal ympryd. Roedd hyn yn y nawfed mis36:9 nawfed mis Cislef, sef nawfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Tachwedd i ganol Rhagfyr. oʼr bumed flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda. 10A dyma Barŵch yn mynd i deml yr ARGLWYDD, i ystafell Gemareia (mab Shaffan, yr ysgrifennydd brenhinol).36:10 Roedd Gemareia yn frawd i Achicam – gw. Jeremeia 26:24. Cafodd Gedaleia (mab Achicam, a nai i Gemareia), ei wneud yn llywodraethwr Jwda ar ôl i Jerwsalem gael ei choncro yn 586 CC – gw. 2 Brenhinoedd 25:22. Roedd ystafell Gemareia wrth iard uchaf y deml yn ymyl y Giât Newydd. A dyma Barŵch yn darllen yn uchel oʼr sgrôl bopeth oedd Jeremeia wediʼi ddweud wrtho.
Darllen y sgrôl yn y palas
11Dyma Michaia (mab Gemareia ac ŵyr i Shaffan) yn clywed Barŵch yn darllen y negeseuon gan yr ARGLWYDD oedd yn y sgrôl. 12Felly aeth i lawr i balas y brenin, a mynd i ystafell yr ysgrifennydd brenhinol. Roedd swyddogion y llys brenhinol yno i gyd mewn cyfarfod: Elishama yr ysgrifennydd, Delaia fab Shemaia, Elnathan fab Achbor, Gemareia fab Shaffan, Sedeceia fab Chananeia aʼr swyddogion eraill. 13Dyma Michaia yn dweud wrthyn nhw am bopeth roedd Barŵch wediʼi ddarllen yn gyhoeddus oʼr sgrôl. 14Felly dyma swyddogion y llys yn anfon Iehwdi (oedd yn fab i Nethaneia, yn ŵyr i Shelemeia, ac yn or-ŵyr i Cwshi) at Barŵch iʼw nôl ac i ddweud wrtho am ddod âʼr sgrôl roedd e wediʼi darllen gydag e. Felly dyma Barŵch yn mynd atyn nhw aʼr sgrôl gydag e. 15“Eistedd i lawr a darllen y sgrôl i ni,” medden nhw. Felly dyma Barŵch yn ei darllen iddyn nhw. 16Roedden nhw i gyd wedi dychryn yn lân pan glywon nhwʼr negeseuon. “Rhaid i ni ddweud wrth y brenin am hyn i gyd,” medden nhw. 17Yna dyma nhwʼn gofyn i Barŵch, “Dwed wrthon ni, sut gest tiʼr negeseuon yma i gyd? Ai pethau ddwedodd Jeremeia ydyn nhw?” 18“Ie,” meddai Barŵch, “roedd Jeremeiaʼn adrodd y cwbl, a finnau wedyn yn ysgrifennuʼr cwbl mewn inc ar y sgrôl.” 19A dymaʼr swyddogion yn dweud wrth Barŵch, “Rhaid i ti a Jeremeia fynd i guddio, a pheidio gadael i neb wybod ble rydych chi.”
Y Brenin Jehoiacim yn llosgiʼr sgrôl
20Dyma nhwʼn cadwʼr sgrôl yn saff yn ystafell Elishama, yr ysgrifennydd brenhinol. Wedyn aethon nhw i ddweud wrth y brenin am y cwbl. 21Dymaʼr brenin yn anfon Iehwdi i nôl y sgrôl. Aeth Iehwdi iʼw nôl o ystafell Elishama, ac yna ei darllen iʼr brenin aʼr swyddogion oedd yn sefyll oʼi gwmpas. 22Y nawfed mis36:22 nawfed mis Cislef, sef nawfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Tachwedd i ganol Rhagfyr. oedd hi, ac roedd y brenin yn eistedd yn y gaeafdy lle roedd tân yn llosgi mewn padell dân oʼi flaen. 23Bob tro roedd Iehwdi wedi darllen tair neu bedair colofn byddaiʼr brenin yn eu torri i ffwrdd gyda chyllell fach aʼu taflu iʼr tân yn y badell. Gwnaeth hyn nes roedd y sgrôl gyfan wediʼi llosgi. 24Wnaeth y brenin aʼi swyddogion ddim cynhyrfu o gwbl pan glywon nhwʼr negeseuon, a wnaethon nhw ddim rhwygoʼu dillad i ddangos eu bod nhwʼn edifar. 25Roedd Elnathan, Delaia a Gemareia wedi pledio ar y brenin i beidio llosgiʼr sgrôl, ond wnaeth e ddim gwrando arnyn nhw. 26A dymaʼr brenin yn gorchymyn i Ierachmeël (un oʼr tywysogion brenhinol), Seraia fab Asriel a Shelemeia fab Abdeël, arestio Barŵch y copïwr a Jeremeiaʼr proffwyd. Ond roedd yr ARGLWYDD wediʼu cuddio nhw.
Jeremeia a Barŵch yn ysgrifennu sgrôl arall
27Ar ôl iʼr brenin losgiʼr sgrôl (sef yr un roedd Barŵch wedi ysgrifennu arni bopeth roedd Jeremeia wediʼi ddweud), dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia: 28“Cymer sgrôl arall, ac ysgrifennu arni bopeth oedd ar y sgrôl wreiddiol gafodd ei llosgi gan Jehoiacim. 29Yna dywed wrth Jehoiacim, brenin Jwda, fy mod i, yr ARGLWYDD, yn dweud: ‘Rwyt wedi llosgiʼr sgrôl, a gofyn i Jeremeia pam wnaeth e ysgrifennu arni fod brenin Babilon yn mynd i ddod i ddinistrioʼr wlad yma, a chipio pobl ac anifeiliaid ohoni.’ 30Felly dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud am Jehoiacim, brenin Jwda: ‘Fydd neb oʼi ddisgynyddion yn eistedd ar orsedd Dafydd. Pan fydd e farw, fydd ei gorff ddim yn cael ei gladdu – bydd yn cael ei daflu i orwedd allan yn haul poeth y dydd a barrug y nos. 31Dw iʼn mynd iʼw gosbi e aʼi ddisgynyddion aʼi swyddogion am yr holl bethau drwg maen nhw wediʼu gwneud. Bydda iʼn eu taro nhw (a pobl Jerwsalem a Jwda) hefo pob dinistr dw i wediʼi fygwth, am iddyn nhw ddal i wrthod gwrando.’”
32Felly dyma Jeremeiaʼn rhoi sgrôl arall i Barŵch fab Nereia, y copïwr. A dyma Barŵch yn ysgrifennu arni bopeth roedd Jeremeiaʼn ei ddweud – y negeseuon oedd ar y sgrôl gafodd ei llosgi gan Jehoiacim, brenin Jwda. A chafodd llawer o negeseuon eraill tebyg eu hychwanegu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015