No themes applied yet
Barn a gobaith
1Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Y nefoedd ydy fy ngorsedd i,
aʼr ddaear ydy fy stôl droed i.
Ble allech chi adeiladu teml fel yna i mi?
Ble dych chi am ei roi i mi i orffwys?
2Onid fi sydd wedi creu popeth syʼn bodoli?
Fi ddaeth â nhw i fod!”
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn.
“Ac eto dyma pwy dw iʼn cymryd sylw ohonyn nhw:
Y rhai tlawd syʼn teimloʼn annigonol
ac syʼn parchu fy neges.
3Ond am y bobl syʼn lladd ych ac ynaʼn llofruddio rhywun,
yn aberthu oen ac ynaʼn torri gwddf ci,
yn cyflwyno offrwm o rawn ac ynaʼn aberthu gwaed moch,
yn llosgi arogldarth ac ynaʼn addoli eilun-dduwiau –
maen nhw wedi dewis mynd eu ffordd eu hunain
ac yn mwynhau gwneud y pethau ffiaidd yma –
4bydda iʼn dewis eu cosbi nhwʼn llym,
a throi eu hofnau gwaethaʼn realiti.
Pan oeddwn iʼn galw, wnaeth neb ateb;
pan oeddwn iʼn siarad, doedd neb yn gwrando.
Roedden nhwʼn gwneud pethau roeddwn iʼn eu casáu,
ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
5Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD,
chi syʼn parchu beth maeʼn ei ddweud!
Mae eich pobl eich hunain yn eich casáu chi
aʼch cau chi allan am sefyll drosto i.
Maen nhwʼn dweud yn wawdlyd:
“Boed iʼr ARGLWYDD gael ei anrhydeddu,
i ni eich gweld chiʼn cael eich gwneud yn hapus.”
Ond byddan nhwʼn cael eu cywilyddio.
6Gwrandwch! Mae twrw yn dod oʼr ddinas
a sŵn yn dod oʼr deml,
sŵn yr ARGLWYDD yn taluʼn ôl iʼw elynion.
7All gwraig gael plentyn heb boenau geni?
All hi eni mab cyn iʼr pyliau ddechrau?
8Na! Pwy glywodd am y fath beth?
Pwy welodd rywbeth fellyʼn digwydd?
Ydy gwlad yn geni plant mewn diwrnod?
Ydy cenedl yn dod i fod mewn moment?
Ond dyma Seion newydd ddechrau esgor
ac mae eisoes wedi cael ei phlant!
9“Fyddwn iʼn gadael iʼr dŵr dorri heb eni plentyn?”
–yr ARGLWYDD syʼn gofyn.
“Fyddwn iʼn dechrauʼr broses eni, ac ynaʼn ei rhwystro?”
–ie, dy Dduw syʼn gofyn.
10Byddwch yn llawen dros Jerwsalem
a dathlu gyda hi,
bawb ohonoch chi syʼn ei charu!
Ymunwch yn y dathlu,
chi fuʼn galaru drosti –
11i chi gael sugnoʼi bronnau a chael eich bodloni,
cael blas wrth lepian ar hyfrydwch ei thethi.
12Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Dw iʼn rhoi iddi heddwch perffaith fel afon,
a bydd cyfoeth y cenhedloedd fel ffrwd yn gorlifo iddi.
Byddwch yn cael sugnoʼi bronnau aʼch cario fel babi,
ac yn chwarae ar ei gliniau fel plentyn bach.
13Bydda iʼn eich cysuro chi fel mam yn cysuroʼi phlentyn;
byddwch chiʼn cael eich cysuro yn Jerwsalem.”
14Byddwch wrth eich bodd wrth weld hyn,
a bydd eich corff cyfan yn cael ei adnewyddu.
Bydd hiʼn amlwg fod nerth yr ARGLWYDD gydaʼi weision,
ond ei fod wedi digio gydaʼi elynion.
15Ydy, maeʼr ARGLWYDD yn dod mewn tân
ac mae sŵn ei gerbydau fel corwynt.
Maeʼn dod i ddangos ei fod yn ddig,
ac i geryddu gyda fflamau tân.
16Achos bydd yr ARGLWYDD yn barnu pawb
hefo tân a gydaʼi gleddyf,
a bydd llawer yn cael eu lladd ganddo.
17“Mae hi ar ben ar bawb syʼn cysegru eu hunain a mynd drwyʼr ddefod o ‘buro’ eu hunain i ddilyn yr un yn y canol ac addoli yn y gerddi paganaidd, gan wledda ar gig moch a phethau ffiaidd eraill fel llygod,” meddaiʼr ARGLWYDD.
18“Dw iʼn gwybod beth maen nhwʼn ei wneud aʼi feddwl. Dw iʼn mynd i gasgluʼr gwledydd i gyd, a phobl o bob iaith, iddyn nhw ddod a gweld fy ysblander i. 19Bydda iʼn gosod arwydd yn eu canol nhw, ac yn anfon at y cenhedloedd rai oʼr bobl fydd wedi llwyddo i ddianc: i Tarshish, at y Libiaid aʼr Lydiaid (y rhai syʼn defnyddio bwa saeth); i Twbal, Groeg, aʼr ynysoedd pell sydd heb glywed sôn amdana i na gweld fy ysblander i. Byddan nhwʼn dweud wrth y cenhedloedd am fy ysblander i. 20A byddan nhwʼn dod âʼch perthnasau oʼr gwledydd i gyd yn offrwm iʼr ARGLWYDD; dod â nhw ar gefn ceffylau, mewn wagenni a throliau, ar gefn mulod a chamelod, i Jerwsalem, fy mynydd sanctaidd,” meddaiʼr ARGLWYDD, “yn union fel mae pobl Israel yn dod ag offrwm o rawn i deml yr ARGLWYDD mewn llestr glân. 21A bydda iʼn dewis rhai ohonyn nhw i fod yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” meddaiʼr ARGLWYDD.
22“Fel y bydd y nefoedd newydd aʼr ddaear newydd
dw iʼn mynd iʼw gwneud yn aros am byth oʼm blaen i,”
–meddaiʼr ARGLWYDD,
“felly y bydd eich plant aʼch enw chi yn aros.
23O un ŵyl y lleuad newydd iʼr llall,
ac o un Saboth i Saboth arall,
bydd pawb yn dod i addoli o mlaen i.”
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn.
24“Byddan nhwʼn mynd allan ac yn gweld
cyrff y rhai hynny oedd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i:
Fydd y cynrhon ynddyn nhw ddim yn marw,
naʼr tân syʼn eu llosgi nhw yn diffodd;
byddan nhwʼn ffiaidd yng ngolwg pawb.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015