No themes applied yet
Bydd yr ARGLWYDD yn cosbiʼr euog
1“Rôn i yno i rai oedd ddim yn gofyn amdana i;
dangosais fy hun i rai oedd ddim yn chwilio amdana i.
Dywedais, ‘Dyma fi! Dyma fi!’
wrth wlad oedd ddim yn galw ar fy enw.
2Bues iʼn estyn fy llaw drwyʼr amser
at bobl oedd yn gwrthryfela –
pobl yn gwneud beth oedd ddim yn dda,
ac yn dilyn eu mympwy eu hunain.
3Roedden nhwʼn fy nigio o hyd ac o hyd –
yn aberthu yn y gerddi paganaidd65:3 gerddi paganaidd gw. 1:29.
ac yn llosgi aberthau ar allor frics;65:3 Exodus 20:25; Deuteronomium 27:5-6
4yn eistedd yng nghanol beddau,
ac yn treulioʼr nos mewn mannau cudd;
yn bwyta cig moch65:4 Lefiticus 11:7; Deuteronomium 14:8
a phowlenni o gawl gyda cig aflan ynddo;
5neuʼn dweud, ‘Cadw draw!
Dw iʼn rhy lân i ti ddod yn agos ata i!’
Mae pobl fel ynaʼn gwneud i mi wylltio,
mae fel tân syʼn dal i losgi drwyʼr dydd.
6Edrychwch! Mae wediʼi gofnodi o mlaen i!
Dw i ddim am ei ddiystyru –
dw iʼn mynd i daluʼn ôl yn llawn:
Taluʼn ôl i bob un ohonyn nhw am eu pechodau,
7a phechodau eu hynafiaid hefyd.”
–meddaiʼr ARGLWYDD.
“Roedden nhwʼn llosgi arogldarth ar y mynyddoedd,
ac yn fy enllibio i ar y bryniau.
Bydda iʼn taluʼn ôl iddyn nhwʼn llawn
am bopeth wnaethon nhw oʼr dechrau cyntaf!”
8Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Fel mae sudd da mewn swp o rawnwin,
a rhywun yn dweud, ‘Paid difetha fe; mae daioni ynddo’,
felly y bydda iʼn gwneud er mwyn fy ngweision –
fydda i ddim yn eu dinistrio nhw i gyd.
9Bydda iʼn rhoi disgynyddion i Jacob,
a phobl i etifeddu fy mynyddoedd yn Jwda.
Bydd y rhai dw i wediʼu dewis yn eu meddiannu,
a bydd fy ngweision yn byw yno.
10Bydd Saron yn borfa i ddefaid,
a Dyffryn Achor,65:10 Saron … Dyffryn Achor Saron: yr iseldir ar arfordir y gorllewin; Dyffryn Achor: yn y dwyrain, wrth ymyl Jericho. Maeʼr ddau le gydaʼi gilydd yn cynrychioliʼr wlad i gyd. syʼn lle i wartheg orwedd,
yn eiddo iʼr bobl syʼn fy ngheisio i.
11Ond chi sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD,
a diystyru fy mynydd cysegredig65:11 mynydd cysegredig gw. 2:3. i;
chi syʼn gosod bwrdd iʼr duw ‘Ffawd’,
ac yn llenwi cwpanau o win iʼr duw ‘Tynged’.
12Dw iʼn eich condemnio i gael eich lladd âʼr cleddyf!
Byddwch chiʼn penlinio i gael eich dienyddio –
achos roeddwn iʼn galw, a wnaethoch chi ddim ateb;
roeddwn iʼn siarad, a wnaethoch chi ddim gwrando.
Roeddech chiʼn gwneud pethau oeddwn iʼn eu casáu,
ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
13Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:
“Bydd fy ngweision yn bwyta, a chithauʼn llwgu.
Bydd fy ngweision yn yfed, a chithauʼn sychedu.
Bydd fy ngweision yn llawen, a chithauʼn cael eich cywilyddio.
14Bydd fy ngweision yn canuʼn braf, a chithauʼn wylo mewn poen,
ac yn griddfan mewn gwewyr meddwl.
15Bydd eich enw yn cael ei ddefnyddio fel melltith
gan y rhai dw i wediʼu dewis.
Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn dy ladd di!
Ond bydd enw hollol wahanol gan ei weision.
16Bydd pwy bynnag drwyʼr byd syʼn derbyn bendith
yn ei gael wrth geisio bendith gan y Duw ffyddlon;
aʼr sawl yn unman syʼn tyngu llw o ffyddlondeb
yn ei gael wrth dyngu llw i enwʼr Duw ffyddlon.
Bydd trafferthion y gorffennol yn cael eu hanghofio,
ac wediʼu cuddio oʼm golwg.
Nefoedd newydd a daear newydd
17Achos dw iʼn mynd i greu
nefoedd newydd a daear newydd!65:17 Eseia 66:22; 2 Pedr 3:13; Datguddiad 21:1
Bydd pethauʼr gorffennol wediʼu hanghofio;
fyddan nhw ddim yn croesiʼr meddwl.
18Ie, dathlwch a mwynhau am byth
yr hyn dw iʼn mynd iʼw greu.
Achos dw iʼn mynd i greu
Jerwsalem i fod yn hyfrydwch,
aʼi phobl yn rheswm i ddathlu.
19Bydd Jerwsalem yn hyfrydwch i mi,
aʼm pobl yn gwneud i mi ddathlu.
Fydd sŵn crio a sgrechian
ddim iʼw glywed yno byth eto.
20Fydd babis bach ddim yn marwʼn ifanc,
na phobl mewn oed yn marwʼn gynnar.
Bydd rhywun syʼn marw yn gant oed
yn cael ei ystyried yn llanc ifanc,
aʼr un syʼn marw heb gyrraedd y cant
yn cael ei ystyried dan felltith.
21Byddan nhwʼn adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw;
byddan nhwʼn plannu gwinllannoedd ac yn bwytaʼu ffrwyth.
22Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw,
nac yn plannu i rywun arall fwytaʼr ffrwyth.
Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden;
bydd y rhai dw i wediʼu dewis
yn cael mwynhauʼn llawn waith eu dwylo.
23Fyddan nhw ddim yn gweithioʼn galed i ddim byd;
fyddan nhw ddim yn magu plant iʼw colli.
Byddan nhwʼn bobl wediʼu bendithio gan yr ARGLWYDD,
aʼu plant gyda nhw hefyd.
24Bydda iʼn ateb cyn iddyn nhw alw arna i;
bydda i wedi clywed cyn iddyn nhw orffen siarad.
25Bydd y blaidd aʼr oen yn pori gydaʼi gilydd,
a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych;
ond llwch y ddaear fydd bwyd y neidr.
Fyddan nhwʼn gwneud dim drwg na niwed65:25 Eseia 11:6-9
yn fy mynydd cysegredig65:25 mynydd cysegredig gw. 2:3. i.”
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015