No themes applied yet
Gorffwys y Saboth i bobl Dduw
1Felly tra maeʼr addewid gynnon ni ein bod yn gallu mynd iʼr lle syʼn saff i orffwys, gadewch i ni fod yn ofalus fod neb oʼn plith niʼn mynd i fethu cyrraedd yno. 2Maeʼr newyddion da (fod lle saff i ni gael gorffwys) wedi cael ei gyhoeddi i ni hefyd, fel iʼr bobl yn yr anialwch. Ond wnaeth y neges ddim gwahaniaeth iddyn nhw, am eu bod nhw ddim wedi credu pan glywon nhw. 3Dŷn ni sydd wedi credu yn cael mynd yno. Mae Duw wedi dweud am y lleill,
“Felly digiais, a dweud ar lw,
‘Chân nhw fyth fynd iʼr lle syʼn saff i orffwys gyda mi.’” 4:3 Salm 95:11
Ac eto mae ar gael ers i Dduw orffen ei waith yn creu y byd. 4Mae wedi dweud yn rhywle am y seithfed dydd:
“Ar y seithfed dydd dyma Duw yn gorffwys oʼi holl waith.” 4:4 Genesis 2:2
5Yn y dyfyniad cyntaf mae Duwʼn dweud,
“Chân nhw fyth fynd iʼr lle syʼn saff i orffwys gyda mi.” 4:5 Salm 95:11
6Felly maeʼr lle saff i orffwys yn dal i fodoli, i rai pobl gael mynd yno. Ond wnaeth y rhai y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi iddyn nhw yn yr anialwch ddim cyrraedd am eu bod wedi bod yn anufudd. 7Felly dyma Duw yn rhoi cyfle arall, a ‘heddiw’ ydyʼr cyfle hwnnw. Dwedodd hyn ganrifoedd wedyn, drwy Dafydd yn y geiriau y soniwyd amdanyn nhwʼn gynharach:
“Os clywch chi lais Duw heddiw,
peidiwch bod yn ystyfnig.” 4:7 Salm 95:7-8 (LXX)
8Petai Josua wedi rhoiʼr lle saff oedd Duwʼn ei addo iddyn nhw orffwys, fyddai dim sôn wedi bod am ddiwrnod arall. 9Felly, mae yna ‘orffwys y seithfed dydd’ syʼn dal i ddisgwyl pobl Dduw. 10Mae pawb syʼn cyrraedd y lle sydd gan Dduw iddyn nhw orffwys yn cael gorffwys oʼu gwaith, yn union fel gwnaeth Duw ei hun orffwys ar ôl gorffen ei waith e.4:10 Genesis 2:2 11Felly gadewch i ni wneud ein gorau glas i fynd iʼr lle saff hwn lle cawn ni orffwys. Bydd unrhyw un syʼn gwrthod dilyn Duw yn syrthio, fel y gwnaeth y bobl yn yr anialwch.
12Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth maeʼn ei ddweud. Maeʼn fwy miniog naʼr un cleddyf, ac yn treiddioʼn ddwfn oʼn mewn, i wahanuʼr enaid aʼr ysbryd, y cymalau aʼr mêr. Maeʼn barnu beth dŷn niʼn ei feddwl ac yn ei fwriadu. 13Does dim byd drwyʼr greadigaeth gyfan yn gallu cuddio oddi wrth Dduw. Mae eʼn gweld popeth yn glir. A dymaʼr Duw dŷn ni i gyd yn atebol iddo.
Iesu yr Archoffeiriad mawr
14Felly gadewch i ni ddal ein gafael yn beth dŷn niʼn gredu. Mae gynnon ni Archoffeiriad gwych! – Iesu, Mab Duw, sydd wedi mynd i mewn at Dduw iʼr nefoedd. 15Ac maeʼn Archoffeiriad syʼn deall yn iawn mor wan ydyn ni. Mae wedi cael ei demtio yn union yr un fath â ni, ond heb bechu o gwbl. 16Felly gadewch i ni glosio at orsedd Duw yn hyderus. Mae Duw mor hael! Bydd yn trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015