No themes applied yet
Iesuʼn fwy na Moses
1Felly, frodyr a chwiorydd – chi sydd wediʼch glanhau ac ar eich ffordd iʼr nefoedd – meddyliwch am Iesu! Fe ydyʼr negesydd oddi wrth Dduw aʼr un dŷn niʼn ei dderbyn yn Archoffeiriad. 2Gwnaeth Iesu bopeth roedd Duw yn gofyn iddoʼi wneud, yn union fel Moses, oedd “yn ffyddlon yn nheulu Duw.”3:2 Numeri 12:7 3Ond mae Iesuʼn haeddu ei anrhydeddu fwy na Moses, yn union fel mae rhywun syʼn adeiladu tŷ yn haeddu ei ganmol fwy naʼr tŷ ei hun! 4Mae pob tŷ wedi cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un sydd wedi adeiladu popeth syʼn bod ydy Duw! 5Gwas “ffyddlon yn nheulu Duw” oedd Moses, ac roedd beth wnaeth e yn pwyntio ymlaen at beth fyddai Duwʼn ei wneud yn y dyfodol. 6Ond maeʼr Meseia yn Fab ffyddlon gydag awdurdod dros deulu Duw i gyd. A dŷn niʼn bobl syʼn perthyn iʼr teulu hwnnw os wnawn ni ddal gafael yn yr hyder aʼr gobaith dŷn niʼn ei frolio.
Rhybudd rhag peidio credu
7Felly, fel maeʼr Ysbryd Glân yn dweud:
“Os clywch chi lais Duw heddiw, 8peidiwch bod yn ystyfnig
fel oeddech chi adeg y gwrthryfel,
yn rhoi Duw ar brawf yn yr anialwch.
9Roedd eich hynafiaid wedi profi fy amynedd
a chawson nhw weld y canlyniadau am bedwar deg mlynedd.
10Digiais gydaʼr bobl hynny,
a dweud, ‘Maen nhwʼn bobl hollol anwadal;
dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’
11Felly digiais, a dweud ar lw,
‘Chân nhw byth fynd iʼr lle syʼn saff i orffwys gyda mi.’” 3:7-11 Salm 95:7-11 (LXX)
12Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw. 13Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hiʼn ‘heddiw’. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo aʼch gwneud yn ystyfnig. 14Os daliwn ein gafael iʼr diwedd a dal i gredu fel ar y dechrau, cawn rannuʼr cwbl sydd gan y Meseia. 15Fel dw i newydd ddweud:
“Os clywch chi lais Duw heddiw,
peidiwch bod yn ystyfnig
fel oeddech chi adeg y gwrthryfel.” 3:15 Salm 95:7-8 (LXX)
16A phwy oedd y rhai wnaeth wrthryfela er eu bod wedi clywed llais Duw? Onid y bobl wnaeth Moses eu harwain allan oʼr Aifft? 17A gyda pwy roedd Duwʼn ddig am 40 mlynedd? Onid gydaʼr rhai oedd wedi pechu? – nhw syrthiodd yn farw yn yr anialwch!3:17 Numeri 14:29,32 18Ac am bwy ddwedodd Duw ar lw na chaen nhw byth fynd iʼr lle syʼn saff i orffwys gydag e? – onid y bobl hynny oedd yn gwrthod ei ddilyn? 19Felly dŷn niʼn gweld eu bod nhw wedi methu cyrraedd yno am eu bod nhw ddim yn credu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015