No themes applied yet
1Aeth Jacob ymlaen ar ei daith, a dyma angylion Duw yn ei gyfarfod. 2Pan welodd Jacob nhw, meddai, “Dyma wersyll Duw!” Felly galwodd y lle yn Machanaîm.32:2 h.y. dau wersyll.
Jacob yn paratoi i gyfarfod ag Esau
3Yna dyma Jacob yn anfon negeswyr at ei frawd Esau yn ardal Seir yn Edom. 4“Fel yma dych chi i siarad gyda fy meistr Esau,” meddai. “Dwedwch wrtho, ‘Dyma mae dy was Jacob yn ei ddweud: Dw i wedi bod yn aros gyda Laban. Dyna ble dw i wedi bod hyd heddiw. 5Mae gen i ychen, asynnod, defaid a geifr, gweision a morynion. Dw iʼn anfon i ddweud wrthot ti yn y gobaith y gwnei di fy nerbyn i.’”
6Pan ddaeth y negeswyr yn ôl at Jacob, dyma nhwʼn dweud wrtho, “Aethon ni at dy frawd Esau, ac mae ar ei ffordd i dy gyfarfod di. Mae ganddo bedwar cant o ddynion gydag e.” 7Roedd gan Jacob ofn am ei fywyd. Rhannodd y bobl oedd gydag e, aʼr defaid aʼr geifr, yr ychen aʼr camelod, yn ddau grŵp. 8“Os bydd Esau yn ymosod ar un grŵp,” meddyliodd, “bydd y grŵp arall yn gallu dianc.”
9Gweddïodd Jacob, “O Dduw fy nhaid Abraham aʼm tad Isaac. Ti ydyʼr ARGLWYDD ddwedodd wrtho i, ‘Dos yn ôl i dy wlad dy hun at dy deulu. Bydda iʼn dda i ti.’ 10Dw iʼn neb, a ddim yn haedduʼr ffaith dy fod ti wedi bod mor hael a ffyddlon iʼr addewid wnest ti i dy was. Doedd gen i ddim byd ond ffon pan es i oddi cartref a chroesi afon Iorddonen. Bellach mae digon ohonon ni i rannuʼn ddau grŵp. 11Plîs wnei diʼn achub i o afael fy mrawd Esau? Mae gen i ofn iddo ymosod arna i, a lladd y gwragedd aʼr plant. 12Rwyt ti wedi dweud, ‘Bydda i wir yn dda i ti. Bydd dy ddisgynyddion di fel tywod y môr – yn gwbl amhosib iʼw cyfri!’”
13Ar ôl aros yno dros nos, anfonodd Jacob rai oʼi anifeiliaid yn rhodd i Esau: 14200 gafr, 20 bwch gafr, 200 dafad, 20 hwrdd, 1530 cameles oedd yn magu rhai bach, 40 buwch, 10 tarw, 20 asen a 10 asyn. 16Dyma feʼn rhoiʼr anifeiliaid mewn grwpiau ar wahân yng ngofal ei weision. “Croeswch yr afon o mlaen i, ond cadwch fwlch rhwng pob grŵp o anifeiliaid,” meddai wrthyn nhw. 17Ac aeth ymlaen i ddweud wrth y gwas fyddaiʼn arwain y grŵp cyntaf, “Pan fydd fy mrawd Esau yn dy gyfarfod di ac yn gofyn, ‘Gwas pwy wyt ti? Ble rwyt tiʼn mynd? Pwy biauʼr anifeiliaid yma?’ 18dywed wrtho, ‘Dy was Jacob piau nhw. Maeʼn eu hanfon nhw yn anrheg i ti syr. Mae Jacob ei hun ar ei ffordd tu ôl i ni.’” 19Dwedodd yr un peth wrth yr ail was aʼr trydydd, aʼr gweision oedd yn dilyn yr anifeiliaid. “Dwedwch chiʼr un peth wrth Esau. A chofiwch ddweud hefyd, ‘Mae dy was Jacob ar ei ffordd tu ôl i ni.’” 20Roedd Jacob yn gobeithio y byddaiʼr anrhegion yn ei dawelu cyn iʼr ddau gyfarfod wyneb yn wyneb. Roedd yn gobeithio y byddai Esau yn ei dderbyn wedyn. 21Felly cafodd yr anifeiliaid eu hanfon drosodd oʼi flaen. Ond arhosodd Jacob yn y gwersyll y noson honno.
Jacob yn reslo gyda Duw
22Yn ystod y nos dyma Jacob yn codi a chroesi rhyd Jabboc gydaʼi ddwy wraig, ei ddwy forwyn aʼi un deg un mab. 23Ar ôl mynd â nhw ar draws, dyma feʼn anfon pawb a phopeth arall oedd ganddo drosodd.
24Roedd Jacob ar ei ben ei hun. A dyma ddyn yn dod ac yn reslo gydag e nes iddi wawrio. 25Pan welodd y dyn nad oedd eʼn ennill, dyma feʼn taro Jacob yn ei glun aʼi rhoi oʼi lle. 26“Gad i mi fynd,” meddaiʼr dyn, “mae hiʼn dechrau gwawrio.” “Na!” meddai Jacob, “Wna i ddim gadael i ti fynd nes i ti fy mendithio i.” 27Felly dymaʼr dyn yn gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Jacob,” meddai. 28A dymaʼr dyn yn dweud wrtho, “Fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel32:28 h.y. Yr un syʼn reslo gyda Duw, neu, Duw syʼn ymladd. fydd dy enw di. Am dy fod ti wedi reslo gyda Duw a phobl, ac wedi ennill.” 29Gofynnodd Jacob iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Pam wyt tiʼn gofyn am fy enw i?” meddaiʼr dyn. Ac wedyn dyma feʼn bendithio Jacob yn y fan honno. 30Felly galwodd Jacob y lle yn Peniel.32:30 h.y. Wyneb Duw. “Dw i wedi gweld Duw wyneb yn wyneb,” meddai, “a dw iʼn dal yn fyw!”
31Roedd yr haul yn tywynnu ar Jacob wrth iddo adael Peniel.32:31 Hebraeg, Penuel. Ac roedd yn gloff o achos yr anaf iʼw glun. 32(Dyna pam dydy pobl Israel hyd heddiw ddim yn bwytaʼr gewyn wrth gymal y glun. Maen nhwʼn cofioʼr digwyddiad yma, pan gafodd Jacob ei daro ar ei glun.)
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015