No themes applied yet
1Ond dymaʼr ARGLWYDD yn ateb Moses, “Cei weld beth fydda iʼn ei wneud iʼr Pharo. Bydda iʼn defnyddio fy nerth iʼw orfodi e iʼw gollwng nhwʼn rhydd, a bydd eʼn eu gyrru nhw allan oʼi wlad!”
Comisiwn Moses
2Meddai Duw wrth Moses, “Fi ydyʼr ARGLWYDD.6:2 Hebraeg, Iahwe – enw Duw. 3Gwnes i ddangos fy hun i Abraham, Isaac a Jacob fel y Duw syʼn rheoli popeth.6:3 Hebraeg, El Shadai. Ond doeddwn i ddim wedi gadael iddyn nhw fy nabod i wrth fy enw, yr ARGLWYDD. 4Rôn i wedi gwneud ymrwymiad i roi gwlad Canaan iddyn nhw, sef y wlad lle roedden nhwʼn byw fel mewnfudwyr. 5Dw i wedi clywed pobl Israel yn griddfan am fod yr Eifftiaid wediʼu gwneud nhwʼn gaethweision, a dw i wedi cofio fy ymrwymiad iddyn nhw. 6Felly, dywed wrth bobl Israel, ‘Fi ydyʼr ARGLWYDD. Dw iʼn mynd i ddod â chi allan oʼr Aifft. Fyddwch chi ddim yn gaethweision iʼr Eifftiaid o hyn ymlaen. Dw iʼn mynd iʼch achub chi rhag cael eich cam-drin ganddyn nhw. Dw iʼn mynd i ddefnyddio fy nerth iʼch rhyddhau chi, ac yn mynd iʼw cosbi nhw. 7Dw iʼn mynd iʼch gwneud chiʼn bobl i mi fy hun. Fi fydd eich Duw chi. Byddwch chiʼn gwybod wedyn mai fi ydyʼr ARGLWYDD eich Duw wnaeth eich achub chi o fod yn gaethweision yn yr Aifft. 8Bydda iʼn dod â chi iʼr wlad wnes i addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob – eich gwlad chi fydd hi wedyn! Fi ydyʼr ARGLWYDD.’”
9Dyma Moses yn dweud hyn i gyd wrth bobl Israel, ond roedden nhwʼn gwrthod gwrando arno. Roedden nhw mor ddigalon am eu bod yn cael eu cam-drin mor ofnadwy.
10Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 11“Dos at y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel oʼi wlad.” 12Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dydy pobl Israel ddim yn fodlon gwrando, felly pam ddylaiʼr Pharo wrando arna i? Dw iʼn siaradwr gwael.” 13Ond dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron fod rhaid iddyn nhw fynd yn ôl at bobl Israel ac at y Pharo, am eu bod i arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft.
Achau Moses ac Aaron
14Dyma enwau penaethiaid teuluoedd Israel:
Meibion Reuben, mab hynaf Israel: Chanoch, Palw, Hesron a Carmi – enwau teuluoedd o lwyth Reuben.
15Meibion Simeon: Iemwel, Iamîn, Ohad, Iachîn, Sochar a Saul (mab i ferch o Canaan) – enwau teuluoedd o lwyth Simeon.
16A dyma enwau meibion Lefi (bob yn genhedlaeth): Gershon, Cohath a Merari (Roedd Lefi wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.)
17Meibion Gershon bob yn deulu: Libni a Shimei.
18Meibion Cohath: Amram, Itsʼhar, Hebron ac Wssiel (Roedd Cohath wedi byw i fod yn 133 mlwydd oed.)
19Meibion Merari: Machli a Mwshi. Dyma deuluoedd llwyth Lefi (bob yn genhedlaeth).
20Roedd Amram wedi priodi Iochefed, chwaer ei dad, a nhw oedd rhieni Aaron a Moses. (Roedd Amram wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.) 21Meibion Itsʼhar oedd Cora, Neffeg a Sichri. 22Meibion Wssiel oedd Mishael, Eltsaffan a Sithri.
23Roedd Aaron wedi priodi Elisheba (merch Aminadab, a chwaer i Nachshon), a nhw oedd rhieni Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar.
24Meibion Cora oedd Assir, Elcana ac Abiasaff. Eu disgynyddion nhw oedd y Corahiaid.
25Roedd Eleasar (mab Aaron) wedi priodi un o ferched Pwtiel, a nhw oedd rhieni Phineas. Dyma benaethiaid y teuluoedd o lwyth Lefi.
26Y rhain oedd yr Aaron aʼr Moses wnaeth yr ARGLWYDD siarad â nhw, a dweud, “Dw i am i chi arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft mewn rhengoedd trefnus.” 27Nhw oedd y rhai aeth i siarad âʼr Pharo, brenin yr Aifft, a mynnu ei fod yn gadael i bobl Israel fynd allan oʼr Aifft – yr un Moses ac Aaron.
28Pan siaradodd yr ARGLWYDD gyda Moses yn yr Aifft, 29dwedodd wrtho, “Fi ydyʼr ARGLWYDD. Dw i eisiau i ti ddweud wrth y Pharo, brenin yr Aifft, bopeth dw iʼn ei ddweud wrthot ti.” 30Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dw iʼn siaradwr gwael! Pam ddylaiʼr Pharo wrando arna i?”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015