No themes applied yet
Moses yn mynd at y Pharo
1Aeth Moses ac Aaron at y Pharo, a dweud wrtho, “Dyma maeʼr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gad iʼm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gynnal gŵyl i mi yn yr anialwch.’” 2Ond dymaʼr Pharoʼn ateb, “A pwy ydyʼr ARGLWYDD yma dw i i fod i wrando arno, a gadael i bobl Israel fynd? Dw i ddim yn gwybod pwy ydy e, a dw i ddim yn mynd i adael i Israel fynd yn rhydd chwaith!” 3A dyma nhwʼn ei ateb, “Mae Duw yr Hebreaid wedi cyfarfod gyda ni. Plîs, gad i ni deithio iʼr anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu iʼr ARGLWYDD ein Duw, rhag iddo ein taro ni gyda haint ofnadwy neu i ni gael ein lladd mewn rhyfel.”
4“Moses, Aaron,” meddaiʼr brenin, “dych chiʼn stopioʼr bobl rhag mynd ymlaen gydaʼu gwaith! Ewch yn ôl i weithio! 5Maeʼr bobl yma drwyʼr wlad i gyd, a dych chiʼn eu stopio nhw rhag gweithio!” 6Fellyʼr diwrnod hwnnw, dymaʼr Pharo yn gorchymyn iʼr meistri gwaith aʼr fformyn oedd dros y bobl: 7“Peidiwch rhoi cyflenwad o wellt5:7 wellt Roedd y gwellt yn gwneud y brics yn gryfach, ac yn eu cadw rhag cracio a cholli eu siâp. iʼr bobl syʼn gwneud brics o hyn ymlaen. Gwnewch iddyn nhw gasglu eu gwellt eu hunain! 8Ond bydd dal ddisgwyl iddyn nhw wneud yr un nifer o frics ag oʼr blaen. Peidiwch gadael iddyn nhw wneud llai. Maeʼn amlwg eu bod nhwʼn slacio, a dyna pam maen nhwʼn dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu iʼn Duw.’ 9Gwnewch iddyn nhw weithioʼn galetach. Fydd ganddyn nhw ddim amser i wrando ar gelwyddauʼr dynion yna wedyn!”
10Felly dymaʼr meistri gwaith aʼr fformyn yn mynd at bobl Israel, a dweud, “Dyma orchymyn gan y Pharo: ‘Dw i ddim am roi gwellt i chi o hyn ymlaen. 11Rhaid i chiʼch hunain fynd allan i chwilio am wellt. A rhaid i chi gynhyrchuʼr un nifer o frics ag oʼr blaen.’” 12Felly dymaʼr bobl yn mynd allan i wlad yr Aifft i bob cyfeiriad, i gasglu bonion gwellt. 13Roedd y meistri gwaith yn rhoi pwysau ofnadwy arnyn nhw, “Rhaid i chi wneud yr un faint o waith bob dydd ag oʼr blaen, pan oedden niʼn rhoi gwellt i chi!” 14Roedd yr Israeliaid oedd wedi cael eu penodiʼn fformyn gan y meistri gwaith yn cael eu curo am beidio cynhyrchuʼr cwota llawn o frics fel oʼr blaen.
15Felly dymaʼr fformyn yn mynd at y Pharo, a phledio arno, “Pam wyt tiʼn trin dy weision fel yma? 16Dŷn niʼn cael dim gwellt, ac eto mae disgwyl i ni wneud brics! Ni syʼn cael ein curo ond ar y meistri gwaith maeʼr bai.” 17Ond dymaʼr Pharo yn dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi bod yn slacio! Dych chiʼn ddiog! Dyna pam dych chiʼn dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu iʼr ARGLWYDD.’ 18Felly ewch, yn ôl iʼch gwaith! Fydd dim gwellt yn cael ei roi i chi, ond rhaid i chi gynhyrchuʼr un faint o frics!”
19Roedd fformyn pobl Israel yn gweld eu bod nhw mewn trwbwl pan ddywedwyd wrthyn nhw, “Rhaid i chi gynhyrchuʼr un faint o frics ag oʼr blaen.”
20Wrth iddyn nhw adael y Pharo, roedd Moses ac Aaron ynoʼn disgwyl amdanyn nhw. 21A dymaʼr fformyn yn dweud wrthyn nhw, “Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn eich barnu chi am droi y Pharo aʼi swyddogion yn ein herbyn ni. Dŷn niʼn drewi yn eu golwg nhw! Dych chi wediʼn rhoi ni mewn sefyllfa lle byddan nhwʼn ein lladd ni!”
Addewid Duw i Moses
22Dyma Moses yn mynd yn ôl at yr ARGLWYDD, a dweud, “O! Feistr, pam tiʼn trin dy bobl fel yma? Pam yn y byd wnest ti fy anfon i atyn nhw? 23Oʼr eiliad es i i siarad âʼr Pharo ar dy ran di, mae e wedi achosi trwbwl iʼr bobl yma, a dwyt ti wedi gwneud dim byd iʼw hachub nhw!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015