No themes applied yet
1Llythyr gan Ioan yr arweinydd, at fy ffrind annwyl Gaius, yr un dw iʼn ei garu go iawn.
2Ffrind annwyl, dw iʼn gweddïo fod pethauʼn mynd yn dda gyda ti, aʼth fod yr un mor iach yn gorfforol ac rwyt tiʼn ysbrydol. 3Dw i wrth fy modd pan mae brodyr neu chwiorydd yn dod yma a dweud wrtho i mor ffyddlon rwyt ti iʼr gwirionedd. 4Does dim byd yn fy ngwneud iʼn fwy llawen na chael clywed fod fy mhlant1:4 fy mhlant: Pobl oedd Ioan wediʼu harwain i gredu yn Iesu. yn bywʼn ffyddlon iʼr gwir.
Haelioni Gaius
5Ffrind annwyl, mae dy ffyddlondeb diʼn amlwg. Rwyt tiʼn helpuʼr brodyr syʼn pregethuʼr newyddion da, er dy fod ti ddim yn eu nabod nhw. 6Maen nhw wedi dweud wrth yr eglwys sydd yma mor garedig a hael wyt ti. Dal ati gydaʼr gwaith da oʼu helpu nhw ar eu ffordd fel hyn. Maeʼr hyn rwyt yn ei wneud yn plesio Duw. 7Maen nhw wedi mynd allan i weithio dros Iesu, a dŷn nhwʼn derbyn dim byd gan bobl sydd ddim yn credu. 8Felly dylen ni sydd yn credu roi croeso iddyn nhw yn ein cartrefi ni. Dŷn niʼn eu helpu nhw i rannuʼr gwirionedd wrth wneud hynny.
Diotreffes
9Dw i wedi ysgrifennu at yr eglwys, ond dydy Diotreffes ddim am wrando ar beth dw iʼn ddweud. Mae e eisiau bod yn geffyl blaen. 10Pan fydda iʼn dod acw bydda iʼn tynnu sylw at beth maeʼn ei wneud. Mae eʼn lledu nonsens maleisus amdanon ni. A dydy hynny ddim yn ddigon ganddo! Mae e hefyd yn gwrthod rhoi croeso iʼr brodyr syʼn pregethuʼr newyddion da, ac maeʼn rhwystroʼr bobl sydd eisiau rhoi croeso iddyn nhw rhag gwneud hynny. Mae hyd yn oed yn tafluʼr bobl hynny allan oʼr eglwys!
11Ffrind annwyl, paid dilyn ei esiampl ddrwg e. Gwna di ddaioni. Y rhai syʼn gwneud daioni syʼn blant i Dduw. Dydyʼr rhai syʼn gwneud drygioni ddim yn nabod Duw.
Demetrius
12Mae pawb yn siarad yn dda am Demetrius, ac mae e wir yn haeddu ei ganmol! Dŷn niʼn ei ganmol e hefyd, ac rwyt yn gwybod y gelli di ddibynnu ar beth dŷn niʼn ddweud.
13Mae gen i lawer mwy iʼw ddweud wrthyt ti, ond dw i ddim am ei roi ar bapur. 14Dw iʼn gobeithio dod i dy weld diʼn fuan iawn, i ni gael siarad wyneb yn wyneb.
15Dw iʼn gweddïo y byddi diʼn profi heddwch dwfn Duw!
Mae dy ffrindiau di yma i gyd yn anfon eu cyfarchion. Cofia niʼn bersonol at bob un oʼn ffrindiau acw hefyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015