No themes applied yet
Heseceia, brenin Jwda
(2 Cronicl 29:1,2; 31:1)
1Daeth Heseceia fab Ahas yn frenin ar Jwda yn ystod trydedd flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin Israel. 2Dau ddeg pump oedd oed Heseceia pan ddaeth yn frenin, a buʼn frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Abeia,18:2 Hebraeg, Abi, cf. 2 Cronicl 29:1. merch Sechareia. 3Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesioʼr ARGLWYDD. 4Dyma feʼn cael gwared âʼr allorau lleol, maluʼr colofnau cysegredig a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. A dyma fe hefyd yn dryllioʼr sarff bres oedd Moses wedi gwneud, am fod pobl Israel yn llosgi arogldarth iddi aʼi galwʼn Nechwshtan.18:4 Nechwshtan gw. Numeri 21:8,9. Roedd Nechwshtan yn llysenw oedd yn swnioʼn debyg iʼr geiriau Hebraeg am “neidr bres”. 5Roedd Heseceiaʼn trystioʼr ARGLWYDD, Duw Israel. Fuodd yna ddim brenin tebyg iddo yn Jwda, oʼi flaen nac ar ei ôl. 6Roedd yn hollol ffyddlon iʼr ARGLWYDD ac yn cadwʼr gorchmynion roddodd yr ARGLWYDD i Moses. 7Roedd yr ARGLWYDD gydag e, ac roedd yn llwyddo beth bynnag roedd eʼn ei wneud. Gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria18:7 brenin Asyria Senacherib oedd hwn o bosib – brenin Asyria o 705 i 681 CC. a gwrthod ei wasanaethu. 8Concrodd wlad y Philistiaid yn llwyr – oʼr pentrefi lleiaf iʼr trefi caerog mawr. Roedd yn rheoliʼr wlad yr holl ffordd i dref Gasa aʼr ardaloedd oʼi chwmpas.
9Yn ystod pedwaredd flwyddyn Heseceia fel brenin (a seithfed flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin ar Israel) daeth Shalmaneser, brenin Asyria, ac ymosod ar Samaria. Buodd yn gwarchae arni 10am bron ddwy flynedd18:10 bron ddwy flynedd Hebraeg, “tair blynedd”, syʼn cyfrif yn y ffordd Hebreig. Gall olygu dim ond rhan fach oʼr flwyddyn gyntaf a rhan fach oʼr drydedd flwyddyn. cyn llwyddo iʼw choncro. Felly cafodd Samaria ei choncro yn ystod chweched flwyddyn Heseceia fel brenin, a nawfed blwyddyn Hoshea yn frenin ar Israel, 11a dyma frenin Asyria18:11 brenin Asyria Sargon II, olynydd Shalmaneser. Gw y nodyn yn 17:6. yn cymryd pobl Israel yn gaethion i Asyria. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan afon Habor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media. 12Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel heb wrando ar yr ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi torri amodauʼr ymrwymiad wnaeth e gyda nhw, ac wedi diystyruʼr gorchmynion roedd ei was Moses wediʼu rhoi iddyn nhw.
Asyria yn ymosod ar Jwda, a bygwth Jerwsalem
(2 Cronicl 32:1-19; Eseia 36:1-22)
13Pan oedd Heseceia wedi bod yn frenin am bron un deg pedair o flynyddoedd, dyma Senacherib, brenin Asyria, yn ymosod ar drefi amddiffynnol Jwda, aʼu dal nhw. 14Felly anfonodd Heseceia, brenin Jwda, y neges yma at frenin Asyria, oedd yn Lachish: “Dw i wedi bod ar fai. Os gwnei di droiʼn ôl, gwna i dalu faint bynnag wyt tiʼn ei ofyn.” A dyma frenin Asyria yn rhoi dirwy o ddeg tunnell o arian a thunnell o aur i Heseceia, brenin Jwda. 15Felly dyma Heseceiaʼn rhoiʼr holl arian allai ddod o hyd iddo yn y deml ac yn storfaʼr palas i Asyria. 16Dyna pryd wnaeth e stripioʼr aur oedd ar ddrysauʼr deml aʼu fframiau, i dalu brenin Asyria.
17Er hynny dyma frenin Asyria yn anfon ei brif swyddog milwrol, ei brif gynghorydd, a phrif swyddog ei balas o Lachish at y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, gyda byddin enfawr. Dyma nhwʼn cyrraedd Jerwsalem a mynd i sefyll wrth sianel ddŵr y gronfa uchaf, sydd ar ffordd Maes y Golchwr. 18Dyma nhwʼn galw ar y brenin, ac aeth Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, allan iʼw cyfarfod, gyda Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd. 19Dwedodd prif swyddog Asyria wrthyn nhw am roiʼr neges yma i Heseceia: “Dyma maeʼr Ymerawdwr, brenin Asyria yn ei ddweud: ‘Beth syʼn dy wneud di mor hyderus? 20Siarad gwag ydy honni fod gen tiʼr strategaeth aʼr gallu milwrol angenrheidiol! Pwy wyt tiʼn pwyso arno go iawn, dy fod yn beiddio gwrthryfela yn fy erbyn i? 21Aiʼr Aifft wyt tiʼn ei drystio? Dydyʼr ffon fagl yna ddim gwell na brwynen wedi hollti, ac maeʼn torri llaw ac yn anafu pwy bynnag syʼn pwyso arni! Dyna syʼn digwydd i bawb syʼn trystioʼr Pharo, brenin yr Aifft.18:21 Eseciel 29:6-7
22“‘Neu ydych chi am ddweud wrtho i eich bod yn trystioʼr ARGLWYDD eich Duw? Onid ydy Heseceia wedi cael gwared âʼi ganolfannau addoli lleol aʼi allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth yr allor yn Jerwsalem maen nhw i addoli? 23Tyrd nawr, beth am drafod telerau gyda fy meistr, brenin Asyria: betia i di, petawn iʼn rhoi dwy fil o geffylau i ti, na fyddai gen ti ddigon o ddynion iʼw reidio nhw! 24Felly sut alli di wrthod cynnig gan ddirprwy un o weision lleia fy meistr hyd yn oed? Ti ddim yn mynd i fynnu dal ati i drystioʼr Aifft am gerbydau a marchogion, siawns? 25A beth bynnag, wyt tiʼn meddwl fy mod i wedi martsio yn erbyn y wlad yma iʼw dinistrio hi heb iʼr ARGLWYDD fy helpu i? Yr ARGLWYDD ei hun ddwedodd wrtho i: “Dos i ymladd yn erbyn y wlad yna aʼi dinistrio hi!”’”
26Dyma Eliacim fab Chilceia, Shefna, a Ioach yn dweud wrth y prif swyddog, “Plîs siarada yn Aramaeg hefo dy weision; dŷn niʼn deall yr iaith honno. Paid siarad hefo ni yn Hebraeg yng nghlywʼr bobl sydd ar y waliau.” 27Ond dymaʼr prif swyddog yn ateb, “Ydych chiʼn meddwl mai atoch chi aʼch meistr yn unig mae fy meistr i wedi fʼanfon i ddweud hyn? Na, maeʼr neges i bawb sydd ar y waliau hefyd. Byddan nhw, fel chithau, yn gorfod bwytaʼu cachu ac yfed eu piso eu hunain.”
28Yna dymaʼr prif swyddog yn camu ymlaen, ac yn gweiddiʼn uchel yn Hebraeg, “Gwrandwch beth maeʼr Ymerawdwr, brenin Asyria, yn ei ddweud! 29Peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo chi, achos fydd e ddim yn galluʼch achub chi. 30A pheidiwch gadael iddo eich cael chi i drystioʼr ARGLWYDD, a dweud wrthoch chi, ‘Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni. Fydd y ddinas yma ddim yn syrthio i ddwylo brenin Asyria!’ 31Peidiwch gwrando arno! Dyma mae brenin Asyriaʼn ei ddweud: ‘Derbyniwch y telerau dw iʼn eu cynnig; dewch allan ata i, a bydd pob un ohonoch chiʼn cael bwyta oʼi winwydden aʼi goeden ffigys, ac yn cael yfed dŵr oʼi ffynnon ei hun. 32Wedyn bydda iʼn mynd â chi i wlad debyg iʼch gwlad chi – gwlad o fara a sudd grawnwin, o gaeau ŷd a gwinllannoedd, gwlad o olewydd, olew a mêl. Cewch fyw yno yn lle marw.
“‘Peidiwch gadael i Heseceia eich camarwain chi wrth ddweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni.” 33Wnaeth duwiauʼr gwledydd eraill achub eu tir nhw rhag brenin Asyria? 34Ble roedd duwiau Chamath ac Arpad? Ble roedd duwiau Seffarfaîm, Hena ac Ifa? Wnaethon nhw achub Samaria oʼm gafael i? 35Pa un oʼr duwiau yma i gyd achubodd eu gwlad oʼm gafael i? Felly, sut maeʼr ARGLWYDD yn mynd i achub Jerwsalem oʼm gafael i?’” 36Ond roedd pawb yn cadwʼn dawel ac yn dweud dim, achos roedd y brenin wedi gorchymyn: “Peidiwch âʼi ateb e.”
37A dyma Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd, yn mynd at Heseceia aʼu dillad wediʼu rhwygo, a dweud wrtho beth oedd y swyddog o Asyria wediʼi ddweud.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015