No themes applied yet
Hoshea, brenin Israel
1Pan oedd Ahas wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg dwy o flynyddoedd daeth Hoshea fab Ela yn frenin ar Israel. Buʼn frenin yn Samaria am naw mlynedd. 2Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond doedd e ddim mor ddrwg âʼr brenhinoedd oedd wedi bod oʼi flaen.
3Dyma Shalmaneser,17:3 Shalmaneser, brenin Asyria Shalmaneser V oedd hwn, Mab Tiglath-Pileser III. Roedd yn frenin Asyria o 727 i 722 CC. brenin Asyria, yn ymosod ar Hoshea. Felly dyma Hoshea yn dod yn was i frenin Asyria a dechrau talu trethi iddo. 4Ond wedyn dyma frenin Asyria yn darganfod fod Hoshea yn cynllwynio yn ei erbyn. Roedd wedi anfon negeswyr at So,17:4 Osorcon IV (730–715 CC) o bosib. brenin yr Aifft, ac wedi gwrthod taluʼr trethi blynyddol i Asyria. Y canlyniad oedd i frenin Asyria ei arestio aʼi roi yn y carchar.
Diwedd Teyrnas Israel
5Wedyn, dyma frenin Asyriaʼn ymosod ar wlad Israel. Aeth i Samaria a buʼn gwarchae arni am bron ddwy flynedd.17:5 bron ddwy flynedd Hebraeg, “tair blynedd”, syʼn cyfrif yn y ffordd Hebreig. Gall olygu dim ond rhan fach oʼr flwyddyn gyntaf a rhan fach oʼr drydedd flwyddyn. 6Roedd Hoshea wedi bod yn frenin am naw mlynedd pan gafodd Samaria ei choncro. Aeth brenin Asyria17:6 brenin Asyria Sargon II, olynydd Shalmaneser, oedd brenin Asyria erbyn hyn. Buodd Shalmaneser farw ar ôl concro Samaria (722 CC) ond cyn iʼr bobl gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion (720 CC). Roedd Sargon II yn teyrnasu ar Asyria o 721 i 705 CC, ac mae llawysgrifau hynafol o Asyria yn dweud ei fod wedi caethgludo 27,290 o bobl. âʼr bobl yn gaethion iʼw wlad ei hun. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan afon Habor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media.
7Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel wedi bod yn anufudd iʼr ARGLWYDD eu Duw – y Duw oedd wediʼu rhyddhau nhw o afael y Pharo a dod â nhw allan oʼr Aifft. Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill 8a dilyn arferion y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wediʼu gyrru allan oʼr wlad o flaen Israel. Roedden nhw wedi dilyn esiampl brenhinoedd Israel. 9Roedden nhwʼn gwneud pethau oʼr golwg oedd yn gwbl groes i ffordd yr ARGLWYDD. Roedden nhw wedi adeiladu allorau lleol ym mhobman – yn y pentrefi bychain aʼr trefi caerog mawr. 10Roedden nhw hefyd yn codi colofnau cysegredig i Baal a pholion y dduwies Ashera wrth yr allorau lleol oedd ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog. 11Roedden nhwʼn llosgi arogldarth ar yr allorau lleol, yn union fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wediʼu gyrru allan oʼu blaenau nhw. Roedd y pethau drwg yma yn digioʼr ARGLWYDD. 12Roedden nhwʼn addoli eilunod ffiaidd er bod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw am beidio.
13Roedd yr ARGLWYDD wedi anfon proffwydi a rhai oedd yn cael gweledigaethau i rybuddio Israel a Jwda. Roedd wedi dweud, drwyddyn nhw, “Rhaid i chi droi cefn ar y drwg a chadwʼr gorchmynion aʼr rheolau syʼn y Gyfraith rois i iʼch hynafiaid chi. Dw i wedi anfon y proffwydi iʼch atgoffa chi ohonyn nhw.” 14Ond doedden nhw ddim am wrando. Roedden nhwʼn hollol benstiff, fel eu hynafiaid oedd yn gwrthod trystioʼr ARGLWYDD eu Duw. 15Roedden nhw wedi gwrthod ei reolau aʼr ymrwymiad roedd wediʼi wneud gydaʼu hynafiaid. Wnaethon nhw ddim gwrando ar ei rybuddion, ond mynd ar ôl eilunod diwerth. Roedden nhwʼn gwneud eu hunain yn ddiwerth, ac yn dynwared y gwledydd oʼu cwmpas, er fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw am beidio gwneud hynny. 16Roedden nhw wedi anwybyddu gorchmynion yr ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi gwneud delwau metel o ddau darw ifanc, a chodi polyn iʼr dduwies Ashera. Roedden nhwʼn plygu iʼr haul aʼr lleuad aʼr sêr, ac yn addoli Baal. 17Roedden nhw hyd yn oed yn llosgi eu plant yn aberth, yn dewino ac yn darogan. Roedden nhwʼn benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, aʼi bryfocio. 18Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel, a dyma feʼn eu gyrru nhw oʼi olwg. Dim ond llwyth Jwda oedd ar ôl. 19Ond doedd Jwda chwaith ddim yn cadw gorchmynion yr ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw hefyd yn dilyn arferion Israel. 20Roedd yr ARGLWYDD wedi gwrthod pobl Israel i gyd, aʼu cosbi nhw drwy adael i bobl eraill eu rheibio aʼu dinistrio nhw. Gyrrodd nhw oʼi olwg yn llwyr.
21Pan wnaeth Duw rwygo Israel oddi wrth linach Dafydd dyma nhwʼn gwneud Jeroboam fab Nebat yn frenin. Roedd e wedi arwain pobl Israel i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a gwneud iddyn nhw bechuʼn ofnadwy. 22Dymaʼr bobl yn addoli eilunod Jeroboam, a wnaethon nhw ddim troi cefn arnyn nhw o gwbl. 23Felly dymaʼr ARGLWYDD yn gyrru Israel allan oʼi olwg fel roedd wedi rhybuddio y byddaiʼn gwneud drwy ei weision y proffwydi. Cafodd pobl Israel eu symud oʼu gwlad eu hunain i Asyria, ac maen nhwʼn dal yno heddiw.
Brenin Asyria yn symud pobl o wledydd eraill i Israel
24Dyma frenin Asyria yn cymryd pobl oedd yn byw yn Babilon, Cwtha, Afa, Chamath a Seffarfaîm, aʼu symud nhw i fyw i drefi Samaria yn lle pobl Israel. Felly dyma nhwʼn cymryd Samaria drosodd, a byw yn ei threfi. 25Pan ddaethon nhw yno i ddechrau doedden nhw ddim yn addoliʼr ARGLWYDD; felly dymaʼr ARGLWYDD yn anfon llewod atyn nhw, a dymaʼr llewod yn lladd rhai pobl. 26Dwedwyd wrth frenin Asyria, “Dydyʼr bobloedd rwyt ti wediʼu symud i drefi Samaria ddim yn gwybod defodau duwʼr wlad. Mae e wedi anfon llewod atyn nhw, ac maeʼr rheiny yn eu lladd nhw.” 27Felly dyma frenin Asyria yn gorchymyn: “Anfonwch un oʼr offeiriaid gafodd eu cymryd oddi yno yn ôl. Bydd eʼn gallu byw gyda nhw aʼu dysgu nhw beth mae duwʼr wlad yn ei ddisgwyl.” 28A dyma un oʼr offeiriaid oedd wedi cael ei gymryd o Samaria yn cael ei anfon yn ôl yno. Roedd yn byw yn Bethel ac yn dysguʼr bobl sut i barchuʼr ARGLWYDD.
29Ond roedd y gwahanol bobloedd oedd yn byw yno yn gwneud delwau oʼu duwiau eu hunain hefyd, ac yn eu gosod nhw yn y temlau lle roedd pobl Samaria wedi codi allorau lleol. Roedd pob un oʼr gwahanol grwpiau o bobl yn gwneud hyn yn y trefi lle roedden nhwʼn byw. 30Dymaʼr bobl o Babilon yn gwneud eilun o Swccoth-benoth, pobl Cwth yn gwneud Nergal, pobl Chamath yn gwneud Ashima 31aʼr Afiaid yn gwneud Nibchas a Tartac. Roedd pobl Seffarfaîm yn llosgi eu plant yn aberth iʼw duwiau, Adram-melech ac Anam-melech. 32Ond roedden nhwʼn addoliʼr ARGLWYDD ar yr un pryd! Ac roedden nhwʼn dewis pob math o bobl i fod yn offeiriad ac i arwain y defodau wrth yr allorau lleol yn y canolfannau hynny. 33Felly roedden nhwʼn addoliʼr ARGLWYDD ac yn gwasanaethu eu duwiau eu hunain ar yr un pryd – ac yn cadw defodauʼr gwledydd o lle roedden nhwʼn dod. 34Maen nhwʼn dal i ddilyn yr un hen arferion hyd heddiw. Dŷn nhw ddim wir yn parchuʼr ARGLWYDD, nac yn ufudd iʼr rheolau, y gorchmynion, y deddfau aʼr gofynion gafodd eu rhoi i ddisgynyddion Jacob, yr un wnaeth Duw roiʼr enw Israel iddo. 35Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud ymrwymiad gydaʼr bobl hynny, a rhoiʼr gorchymyn yma iddyn nhw: “Peidiwch addoli duwiau eraill. Peidiwch plygu oʼu blaen, eu gwasanaethu nac aberthu iddyn nhw. 36Dim ond fi, yr ARGLWYDD dych chi iʼw addoli. Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft gyda nerth a grym mawr. Fi ydyʼr un dych chi iʼw addoli ac aberthu anifeiliaid iddo. 37A dych chi i gadw y rheolau, gorchmynion, deddfau a gofynion wnes i eu hysgrifennu i chi. Peidiwch addoli duwiau eraill. 38Peidiwch anghofioʼr ymrwymiad dw i wediʼi wneud gyda chi, a pheidiwch addoli duwiau eraill. 39Fi, yr ARGLWYDD eich Duw dych chi iʼw addoli, a bydda iʼn eich achub chi oddi wrth eich gelynion i gyd.”
40Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Roedden nhwʼn dal i ddilyn yr un hen arferion. 41Roedd y gwahanol grwpiau yma o bobl i gyd yn addoliʼr ARGLWYDD, ond roedden nhw hefyd yn gwasanaethu eu heilun-dduwiau ar yr un pryd. Ac mae eu plant aʼu plant hwythau yn dal i wneud yr un fath âʼu hynafiaid hyd heddiw.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015