Skip to main content

Yn ddyledus yn unig i Dduw: Genesis 14.17–24 (13 Ionawr 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Genesis 14

Mae'r darn hwn yn dilyn hanes eithaf cymhleth o sgarmesau rhwng naw 'brenin' - mae'n debyg y buasem ni'n meddwl amdanynt yn well fel penaethiaid llwythol - sy'n arwain at nai Abraham, Lot a'i deulu, yn cael eu cymryd yn garcharorion. Pan mae Abraham yn eu hachub, mae hefyd yn swcro Brenin Sodom, ymhlith eraill. Mae'n gwrthod cymryd unrhyw ran o ysbail rhyfel o Sodom, fodd bynnag, oherwydd ni ddylai unrhyw un allu dweud, 'Fe wnes i Abraham yn gyfoethog'. A yw hyn oherwydd bod Sodom yn cael ei adnabod fel lle drygionus a bod ei gyfoeth wedi ei lygru? Efallai; ond mae'n edrych yn debycach i egwyddor gyffredinol. Bydd popeth sydd gan Abraham yn dod oddi wrth Dduw.

Mae'r cwestiwn i ba raddau y dylai Cristnogion fod dan ddyled i eraill am gefnogaeth - ariannol ac fel arall - yn gymhleth iawn yn ein byd modern. Yr hyn sy'n amlwg, fodd bynnag, yw na ddylai'r gefnogaeth hon fyth gyfaddawdu ar ein ffydd; mae ein teyrngarwch pennaf a diamod i Dduw. Pan fydd ystyriaethau eraill - efallai ariannol, efallai cwestiynau perthynas neu gyfeillgarwch - yn dechrau rhwystro, mae angen i ni feddwl o ddifrif am sut rydyn ni'n gwneud penderfyniadau a beth sy'n dylanwadu arnom ni.

Mae Brenin dirgel Salem, Melchisedec, hefyd yn 'offeiriad y Duw Goruchaf' - y cyntaf i gael y teitl hwn yn yr Hen Destament. Mae'n ymddangos yn Salm 110.4, ac mae trafodaeth estynedig amdano yn Hebreaid 7. Yn unol â hyn, mae Cristnogion yn gweld yn ei offrwm o fara a gwin ragflaeniad offeiriadaeth Crist. Mae Melchisedec yn ymddangos allan o unman, unwaith eto yn nodi atebolrwydd Abraham i Dduw yn unig.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i gadw fy ngolwg yn ddiysgog arnat ti, a gad imi beidio byth â thynnu sylw na chyfaddawdu gan yr hyn y gallai eraill ei gynnig i mi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible