Skip to main content

‘Ymddwyn fel oedolion’: 1 Corinthiaid 14.20–25 (Chwefror 27, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Corinthiaid 14.20–25

Mae'r bennod hon yn delio â threfnusrwydd mewn addoliad, gan gynnwys mater 'siarad mewn tafodau rhyfedd' neu mewn ieithoedd dieithr. Mae'n debyg bod hyn yn cyfeirio at yr iaith weddi ysbrydol, sy'n annealladwy i'w siaradwyr neu wrandawyr, a ystyrir yn un o ddoniau’r Ysbryd. Mae siarad mewn tafodau yn cael ei ymarfer nid yn unig gan Gristnogion Pentecostaidd ond mewn sawl rhan arall o'r Eglwys. Er ei fod weithiau'n cael ei ystyried ag amheuaeth, mae'n cael ei dderbyn yn eang.

Fodd bynnag, nid ynghylch siarad tafodau yn unig yw hyn - mae egwyddor ehangach yn y fantol. Yn y darn hwn mae Paul yn rhybuddio nid yn unig am hyn, ond rhannau eraill o addoliad Cristnogion Corinthaidd hefyd. Mae'n pryderu, er eu bod yn mwynhau eu hamseroedd o fawl gyda'i gilydd, eu bod yn creu argraff wael i'r rhai nad ydynt yw’n rhannu eu ffydd – ‘Felly, os ydy pawb yn siarad mewn ieithoedd dieithr pan mae'r eglwys yn cyfarfod, a phobl sydd ddim yn credu nac yn deall beth sy'n mynd ymlaen yn dod i mewn, oni fyddan nhw'n meddwl eich bod chi'n hollol wallgof?’  (adnod 23).

Mae'r rhybudd yma yn erbyn bod yn hunanfoddhaol wrth addoli. Wrth gwrs, mae gan eglwysi eu cymeriadau a'u ffyrdd eu hunain o wneud pethau, ac mae addoliad Cristnogol o unrhyw fath yn mynd i ymddangos yn rhyfedd i rywun nad yw wedi arfer ag ef. Rhaid i newydd-ddyfodiaid fod yn barod i ddysgu. Ond mae Paul yn bod yn ymarferol iawn, ac yn dweud na ddylem roi rhwystrau diangen yn ffordd pobl at ffydd. Efallai y byddwn ni'n mwynhau'r caneuon, y pregethau a'r strwythurau rydym wedi arfer â nhw yn fawr - ond nid yw’r addoli amdanom ni. Aberth mawl ydyw - ac mae aberthau i fod i gostio rhywbeth.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am yr amseroedd rwyt ti'n siarad â mi wrth i mi dy addoli gyda fy chwiorydd a'm brodyr mewn ffydd. Helpa fi i fod yn barod i weld trwy lygaid eraill, ac i fod yn barod i gyfaddawdu pryd y bydd yn eu helpu i gerdded gyda thi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible