Skip to main content

Y Duw sy’n fy ngweld: Genesis 16.1–16 (Ionawr 15 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Genesis 16.1–16

Mae stori Hagar yn un o drasiedïau domestig y Beibl. Mae'n dechrau pan mae ffydd Abraham yn chwalu. Mae wedi credu y bydd Duw yn rhoi mab iddo, ond ymddengys nad oes dim yn digwydd felly gydag anogaeth Sara mae'n cymryd materion i'w ddwylo ei hun. Yn y dyddiau hynny byddai ei ymddygiad wedi bod yn ddigon normal. Ond mae pwysau’r sefyllfa yn ffrwydro’n wrthdaro. Dim ond ymyrraeth ddwyfol sy'n amddiffyn bywydau Hagar a'i mab Ishmael.

Felly yn y stori mae yna rybudd a bendith. Cymerodd Abraham a Sara lwybr annheilwng tuag at ddiwedd yr addawyd iddynt. Nid dyna sut mae Duw yn gweithio. Os cawn weledigaeth ganddo, bydd popeth sy'n cyflawni'r weledigaeth honno'n ei anrhydeddu. Gall hyn fod yn broblem i arweinwyr eglwysi, er enghraifft, sy’n ysu i gyflawni pethau; gall aros fod yn anodd, ond mae'n well na chael eich temtio i dorri corneli o ran moeseg neu berthnasoedd.

Mae’r fendith yn eiddo i Hagar. Mae hi wedi dysgu gwers boenus. Nid oes unrhyw beth am ei sefyllfa yn hawdd, ond mae ganddi’r cysur o wybod bod Duw wedi ei ‘gweld’ (adnod 13). Beth bynnag yr awn drwyddo, fe'n gwelir gan Dduw, sy'n ein gwylio â thosturi; ac weithiau rydym yn cael y fraint o'i weld hefyd.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch dy fod yn fy ngweld pan fyddaf yn pechu a phan fyddaf yn dioddef. Helpa fi i ymddiried ynot ti, i aros am dy fendith, a gwneud y peth iawn.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible