Skip to main content

Y brenin dwyfol: Sechareia 9 (21 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Sechareia 9

Cyd-destun y bennod hon yw rhyfel – dinistrio gelynion Israel wrth i Dduw farnu o blaid ei bobl ei hun. Mae wedi ei ysgrifennu, wrth gwrs, o safbwynt yr Israeliaid, sy’n teimlo eu bod yn cael eu gormesu gan rym mwy eu cymdogion ac yn hiraethu am ymwared gan eu Duw. Ac mae Duw yn eu gwaredu, gan ddod ag ofn ac ing i’r cenhedloedd o gwmpas. Mae dinas gyfoethog Tyrus yn profi trychineb economaidd wrth i gargo gwerthfawr gael eu taflu dros ochr eu llongau masnach (adnod 4).

Ond yng nghanol y bennod, mae sŵn rhyfel yn pylu, ac mae sain gorfoledd yn cynyddu. I Gristnogion, adnod 9 yw un o’r pytiau mwyaf adnabyddus o’r broffwydoliaeth hon, oherwydd gwnaeth Iesu hyn ar ei fynediad i Jerwsalem ychydig ddyddiau cyn ei groeshoeliad. Mae Mathew 21.5 yn tynnu sylw at ei weithredoedd fel cyflawniad bwriadol o oracl Sechareia. Mae brenin buddugoliaethus ond gostyngedig yn ymddangos allan o’r anhrefn, i ddod â rhyfel i ben a ‘cyhoeddi heddwch i'r gwledydd’ (adnod 10).

A allwn ni ddweud mewn gwirionedd, serch hynny, mai mynediad Iesu i Jerwsalem oedd cyflawniad y broffwydoliaeth hon unwaith ac am byth? Wrth gwrs ddim. Mae rhyfel yn parhau ledled y byd (yn enwedig yn y rhanbarthau a restrir gan Sechareia). Mae ofn, ing, trawma marwolaeth a chwymp economaidd yn realiti presennol iawn i lawer o bobl.

Ac eto mae’r dyhead dynol am heddwch a sefydlogrwydd yn dal i’n tynnu at ddarnau fel adnodau 9-10, gan ein gwahodd i roi ein hymddiriedaeth yn y brenin dwyfol. Mae Duw yn rhyfelwr yn y bennod hon, ond ei wir awydd ydi i’w bobl fyw mewn heddwch tragwyddol, gyda phopeth sydd ei angen arnynt i’w galluogi i ffynnu.

Gweddi

Gweddi

Diolch i ti, Arglwydd Dduw, am y gobaith o heddwch gwir a pharhaol y mae Iesu’n ei roi i ni. Helpa ni i dy adnabod di fel brenin ym mhob rhan o’n bywydau, ac i weithio dros heddwch ble bynnag byddwn yn mynd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Rheolwr Prosiect Golygyddol yn y tîm Cyhoeddi.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible