No themes applied yet
Duw yn barnu a bendithio cymdogion Israel
1Y neges roddodd yr ARGLWYDD
am ardal Chadrach,
yn arbennig tref Damascus.
(Mae llygad yr ARGLWYDD ar y ddynoliaeth
fel mae ar lwythau Israel i gyd.)
2Ac am Chamath, syʼn ffinio gyda Damascus,
a Tyrus a Sidon9:2 Tyrus a Sidon trefi ar arfordir Phenicia. hefyd,
syʼn meddwl ei bod mor glyfar.
3Mae Tyrus wedi gwneud ei hun mor gryf
ac mor gyfoethog9:3 Eseciel 28:4-5 – mae wedi pentyrru
arian fel pridd, ac aur fel baw ar y strydoedd!
4Ond bydd y Meistr yn cymryd y cwbl,
ac yn suddo ei llongau yn y môr.
Bydd tref Tyrus yn cael ei llosgiʼn ulw!
5Bydd Ashcelon yn gweld hyn ac yn dychryn.
Bydd Gasa yn gwingo mewn ofn;
ac Ecron hefyd wedi anobeithioʼn llwyr.
Bydd brenin Gasa yn cael ei ladd,
a fydd neb ar ôl yn Ashcelon.
6A bydd pobl o dras gymysg yn setlo yn Ashdod.9:5,6 Ashcelon … Gasa … Ecron … Ashdod trefiʼr Philistiaid, oedd mewn cynghrair gyda Tyrus.
Dw iʼn mynd i dorri crib y Philistiaid!
7Yna wnân nhw byth eto
fwyta dim gyda gwaed ynddo,9:7 Genesis 9:4; Lefiticus 3:17; Deuteronomium 12:16
na chig wediʼi aberthu i eilun-dduwiau.
Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistia
yn dod i gredu yn ein Duw –
byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda.
A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid.9:7 Jebwsiaid Pobl Jerwsalem cyn i Dafydd goncroʼr ddinas (gw. 2 Samuel 5:6-10). Cawson nhw aros a dod yn rhan o Israel (Josua 15:63; Barnwyr 1:21; 1 Brenhinoedd 9:20-21).
8Bydda iʼn gwersylla o gwmpas y deml,
iʼw hamddiffyn rhag y byddinoedd syʼn mynd a dod.
Fydd neb yn ymosod ar fy mhobl
iʼw gormesu nhw byth eto.
Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw.9:8 Deuteronomium 11:12
Y brenin sydd i ddod
9Dathlwch bobl Seion!
Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem!
Edrych! Mae dy frenin yn dod.
Mae eʼn gyfiawn ac yn achub;
Maeʼn addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn,
ie, ar ebol asen.
10Bydda iʼn symud y cerbydau rhyfel o Israel,9:10 Israel Hebraeg, “Effraim”, sef prif lwyth teyrnas Israel, yn aml yn cynrychioliʼr wlad yn gyfan.
a mynd âʼr ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem.
Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio!
Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch iʼr gwledydd.9:10 Eseia 2:4; Micha 4:3; 5:10
Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr,
ac o afon Ewffrates i ben drawʼr byd!9:10 Salm 72:8
11Yna chi, fy mhobl – oherwydd yr ymrwymiad
rhyngon ni, wediʼi selio â gwaed9:11 ymrwymiad … gwaed Yr ymrwymiad ar Fynydd Sinai (gw. Exodus 24:7,8). –
dw iʼn mynd i ryddhau eich carcharorion
oʼr pydew oedd heb ddŵr ynddo.
12Dewch adre iʼr gaer ddiogel,
chi garcharorion – mae gobaith!
Dw iʼn cyhoeddi heddiw eich bod i gael
popeth gollwyd yn ôl – dwywaith cymaint!
13Jwda ydyʼr bwa dw iʼn ei blygu,
ac Israel9:13 gw. adn. 10. ydyʼr saeth.
Bydda iʼn codi dy bobl di, Seion,
yn erbyn gwlad Groeg.
Bydd Seion fel cleddyf rhyfelwr
yn fy llaw.
14Yna bydd yr ARGLWYDD iʼw weld
uwchben ei bobl,
aʼi saeth yn tanio fel mellten.
Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn chwythuʼr corn hwrdd,9:14 corn hwrdd Hebraeg, shoffar.
ac yn ymosod fel gwynt stormus oʼr de.
15Bydd yr ARGLWYDD hollbwerus
yn amddiffyn ei bobl.
Byddan nhwʼn concroʼr gelyn gyda ffyn tafl,
ac yn gwledda a dathlu fel meddwon.
Bydd fel y gwaed o bowlen yr aberth
yn cael ei sblasio ar gyrn yr allor.
16Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD eu Duw
yn eu hachub, am mai nhw ydy praidd ei bobl.
Byddan nhwʼn disgleirio ar ei dir
fel cerrig gwerthfawr mewn coron –
17Mor werthfawr! Mor hardd!
Bydd ŷd a sudd grawnwin yn gwneud
y dynion aʼr merched ifanc yn gryf.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015