Skip to main content

Tyrd i weld: Ioan 1.43–51 (10 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Ioan 1.43–51

Mae Efengyl Ioan yn wahanol i’r lleill. Mae ei naws a’i iaith yn wahanol; mae yna ddarnau hirach o addysgu, a llai o straeon ond eu bod yn rhai hirach, rhai ohonynt yn wahanol i’r Efengylau eraill. Mae dechrau gyda cherdd-bregeth unigryw. Tra bo gan Mathew a Luc straeon am y geni, mae Ioan yn adleisio Genesis: ‘Yn y dechreuad’. Nid Dyn o Nasareth yn unig oedd Crist: ef oedd y Duw ymgnawdoledig, y Gair a ddaeth yn berson o gig a gwaed (adnod 14).

Mae'r rhain yn adnodau aruthrol, ac maent yn codi ein calonnau a’n meddyliau tua’r nefoedd. Ond nid y math hwn o ddiwinyddiaeth gywrain a ddenodd bobl at Iesu – neu sy’n denu pobl ato heddiw. Ar ddechrau ei weinidogaeth, mae Philip, un o’i ddilynwyr cynharaf, yn dweud wrth Nathanael ei fod wedi dod o hyd i’r Meseia. Pan mae Nathanael yn amheugar, dywed Philip wrtho: ‘Tyrd i weld’ (adnod 46). Y ‘Tyrd i weld’ sydd mor bwerus. Mae pobl sy’n ymwneud â ‘diffyniadaeth’ – gan ddadlau dros Gristnogaeth trwy ddangos sut y gellir gwrthweithio gwrthwynebiadau anffyddwyr – yn gwneud gwaith gwerthfawr wrth gael gwared ar rwystrau i ffydd. Ond mae’n debyg nad ydynt yn troi gymaint o bobl â’r rhai sy’n gwahodd eraill drwy ddweud ‘tyrd i weld’ Iesu ar waith, yn eu bywydau neu yn eu heglwysi. Wrth inni ddod i’w adnabod yn fwy a chael ein tynnu’n ddyfnach i stori ei fywyd, ei farwolaeth a’i atgyfodiad, rydym yn dod yn ‘ddilynwyr’ iddo. Dyna un rheswm pam mai blaenoriaeth pob crediniwr yw dod yn debyg i Grist – fel y gall eraill edrych arnom a’i weld.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i fyw yn y fath fodd bod eraill yn gallu gweld Iesu ynof fi, a chael eu denu ato fel eu gwaredwr a’u Harglwydd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible