Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Yn stori Luc am yr Atgyfodiad, merched yw’r cyntaf wrth y bedd. Nhw yw’r rhai a fydd yn ymdrin â chorff Iesu, fel maen nhw’n meddwl; rôl draddodiadol. Mae’n anodd dychmygu eu teimladau wrth iddynt fynd i’r afael â’u tasg: roeddent wedi ei garu’n ddwfn ac ar fin dod wyneb yn wyneb â’i anafiadau ofnadwy. Roedd yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd yn dra gwahanol: llais angel gyda neges o obaith. Pan ddywedasant wrth yr apostolion beth oedd wedi digwydd, nid oeddent ‘yn eu credu nhw – roedden nhw'n meddwl fod y stori yn nonsens llwyr’ (adnod 11).
Mae’n anodd dychmygu nad yw Luc yn gwneud pwynt yma: roedd y merched yn iawn a’r dynion yn anghywir. Yn niwylliant yr oes, nid dyma fel yr oedd y stori i fod i fynd; ni ddaeth arweinwyr yr Eglwys newydd allan ohoni yn dda. Ar un lefel, mae hwn yn dystiolaeth o’i wirionedd: pe bai ysgrifennwyr yr Efengyl ddim yn dweud y gwir, ni fyddent wedi rhoi eu harweinwyr mewn goleuni mor wael. Ond ar lefel arall, mae’n siarad am y ffordd y mae’r efengyl yn dileu’r heirarchaethau a chadwyni awdurdod traddodiadol. Mae pawb yn un yng Nghrist Iesu; mae’r ddaear yn wastad wrth droed y groes. Tystiolaeth bersonol y merched i’r hyn welsant â’u llygaid eu hunain oedd y cyfan a oedd o bwys. Waeth pwy ydym ni, ni all unrhyw un dynnu ein stori oddi wrthym.
Duw, helpa fi i fod yn agored i glywed straeon pobl eraill am yr hyn rwyt wedi’i wneud yn eu bywydau. Aflonydda fi a heria fi, fel y gwnes di herio’r apostolion cyntaf.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.