Skip to main content

Tyrd, dilyn fi: Luc 5.1–11 (20 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 5.1–11

Galwodd Iesu 12 dyn i’w ddilyn a dod yn gnewyllyn yr Eglwys. Roeddent, i’w roi yn ysgafn, yn griw o wehilion – pysgotwyr, casglwr trethi ac o bosib hyd yn oed terfysgwr yn eu plith. Nid ydym yn gwybod sut y dewisodd e nhw, ond mae’n debyg o’r straeon fel petai bron ar ddamwain; roeddent yn bobl y digwyddodd eu cyfarfod. Os felly, mae hon yn wers bwerus: nid yw Duw yn galw’r rhai sydd wedi’u cyfarparu, mae’n cyfarparu’r rhai mae wedi eu galw.

Mae’r syniad o ‘alwad’ wedi’i ymgorffori yn ein syniad o ddisgyblaeth; mae disgybl yn ‘ddilynwr’ sy’n ateb galwad Iesu, ac mae pob Cristion yn ddisgybl. Ond mae angen i ni fod yn ofalus sut rydym yn darllen y straeon hyn am yr apostolion cyntaf. Gadawodd y pysgotwyr eu rhwydi (adnod 11); gadawodd Lefi, neu Mathew, ei swydd (adnod 28); rydym yn tybio bod Jwdas – o bosib yn 'bradlofrudd' neu 'gudd-weithredwr' – wedi gadael beth bynnag roedd yn ei wneud. Ond mae’r mwyafrif ohonom yn cael ein galw gan Iesu i aros lle’r ydym ni, yn gweithio yn ein swyddfa neu gaffi neu ffatri neu siop. Ychydig iawn sy’n cael eu galw i adael popeth a dod yn ‘weinidogion yr efengyl’, yn fugeiliaid ac athrawon proffesiynol.

Mae Cristnogion sy’n cael eu bywoliaeth o’r efengyl yn gwybod y gall fod yn alwad galed iawn. Ond mewn rhai ffyrdd mae’n anoddach fyth i’r rhai sy’n cael eu galw i ddisgyblaeth Gristnogol mewn amgylchedd gwaith neu deulu cyffredin, gan lywio’r temtasiynau, y tensiynau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny. Rydym i gyd yn cael ein galw i ddilyn Iesu. Sut ydym yn dwyn tystiolaeth iddo pan mae gadael popeth a’i ddilyn yn golygu aros lle rydym ni?

Gweddi

Gweddi

Duw, rho ddoethineb imi ddirnad sut i ddilyn Iesu lle rwyt wedi fy rhoi, a’r dewrder i wneud yr hyn sy’n anodd hyd yn oed pan fydd pris i mi ei dalu.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible