Skip to main content

Tro yn y stori: Marc 12.1–12 (Chwefror 9, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Marc 12.1–12

Mae Dameg y Tenantiaid, ar yr wyneb, yn eithaf syml os ydych chi'n adnabod eich Beibl yn weddol dda. Y dyn sy'n plannu'r winllan ac yn ei rhentu yw Duw; y negeswyr y mae'n eu hanfon i gasglu'r rhent yw proffwydi'r Hen Destament; y mab y mae'r tenantiaid yn ei ladd yw Iesu ei hun.

Mae'n adlewyrchu sefyllfa gymdeithasol yr oes, pan oedd yn well gan dirfeddianwyr mawr fywyd hamdden yn null Rhufeinig na gweithio eu tir eu hunain. Ond nid proffwydoliaeth lom marwolaeth a barn yn unig mohono. ‘Beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud? Dweda i wrthoch chi beth! – bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid a rhoi'r winllan i rai eraill’ (adnod 9). Dyna gasgliad rhesymegol y stori. Ond yna mae’n ychwanegu tro: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen’ (adnod 10). Mewn geiriau eraill, nid diwedd y stori yw ei chasgliad, oherwydd bydd Duw yn codi Iesu oddi wrth y meirw. Ar ben hynny, nid yw'r 'tenantiaid' yn cael eu dinistrio. Pan fydd Pedr yn dweud wrth y dorf adeg y Pentecost beth maent wedi'i wneud trwy eu cyfranogaeth ym marwolaeth Crist, ‘roedd pobl wedi'u hysgwyd i'r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw'n gofyn iddo ac i'r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?” (Actau 2.27). Yn ôl rhesymeg y stori, dylai'r ateb fod, 'Dim byd; mae'n rhy hwyr.' Ond maent yn cael cynnig cyfle am edifeirwch a bywyd newydd.

Felly yn lle bod y ddameg hon yn ymwneud â chondemniad, mae'n ymwneud â thrugaredd. Mae Duw yn llawer mwy trugarog nag yr ydym yn ei ddychmygu - ac yn llawer mwy nag yr ydym yn ei haeddu.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i roi'r hyn sy'n iawn i ti: gwneud yn gyfiawn, caru trugaredd a cherdded yn ostyngedig gyda thi. A diolch pan fyddaf yn methu, nid dyna ddiwedd y stori, oherwydd dy fod yn drugarog ac yn maddau.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible