Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, trugarha. Glanha fi. Tawela fy meddwl. Helpa fi i wrando wrth i ti siarad.
Mae Paul yn llunio ei feddyliau diwethaf gyda’r ymadroddion, ‘heddwch Duw’ (adnod 7) a ‘Duw heddwch’ (adnod 9). Er gwaethaf ei helynt, mae’n llawn llawenydd (adnod 4), oherwydd bod llais bach, tawel Duw yn ei sicrhau o’i bresenoldeb a heddwch ‘sydd tu hwnt i bob dychymyg’.
Unwaith eto, mae’r apostol yn siarad am ‘efelychu’ - thema yr ydym wedi dod ar ei draws yn y penodau blaenorol ac roedd hynny’n gyffredin mewn diwylliant lle’r oedd efelychu athro doeth yn rhan o ffurfiant moesol rhywun. Mae efelychu yn yr achos hwn yn golygu nid yn unig dilyn esiampl Paul ond dal gafael ar yr Efengyl.
Mae gan bennod olaf yr epistol byr ond gwerthfawr hwn gwpl o berlau ychwanegol i ni: y cyfeiriad at Euodia a Syntyche, merched nad oedd eu rôl i wneud coffi eglwysig – er mor deilwng gallai'r gwasanaeth hwnnw fod - ond i fod ar flaen y gad mewn cenhadaeth a gweinidogaeth; a manylyn arall y gellir yn hawdd ei anwybyddu, a geir yn adnod 22: mor gynnar â chanol y ganrif gyntaf, roedd rhai pobl ym mhalas Cesar wedi dod i ffydd yn Iesu. Efallai fod Paul wedi bod mewn cadwyni, ond roedd yr efengyl yn ymledu yn gyflym ar draws yr Ymerodraeth.
Arglwydd, helpa fi i weddïo, yn hytrach na phoeni, a llanw fi â dy heddwch, beth bynnag fo'r amgylchiadau.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.