Skip to main content

Efelychu – nid gêm mohono: Philipiaid 3.4b–11 (Mawrth 29, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, trugarha. Glanha fi. Tawela fy meddwl. Helpa fi i wrando wrth i ti siarad.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Philipiaid 3

Ymhell cyn i’r clerigwr canoloesol Thomas à Kempis ysgrifennu ei glasur defosiynol The Imitation of Christ, archwiliodd yr apostol Paul yr hyn yr oedd ‘efelychu’ yn ei awgrymu.

Ddoe gwnaethom ddarllen geiriau Paul am ostyngeiddrwydd a hunanaberth Crist gan ysbrydoli a llywio'r ffordd y dylem fyw ein bywydau. Mae adnodau heddiw yn disgrifio newid llwyr Paul o fod yn un o’r Phariseaid i fod yn un o ddilynwyr Iesu. Arferai Paul ddilyn Cyfraith Moses. Bellach ei unig ffocws yw ‘dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e – hyd yn oed os bydd hynny'n golygu marw drosto!’ (adnod 10). I Paul, mae ffydd yn cynnwys ‘adnabod a ‘dod yn debyg i’ Iesu, hyd yn oed ac yn enwedig yng nghyd-destun dioddefaint. Nid gêm yw efelychu.

Peidiwn ag anghofio, wrth iddo ysgrifennu, fod Paul mewn cadwyni - heb ddŵr na chyfle i apelio at y Ddeddf Hawliau Dynol. Iddo ef, nid yw efelychu Crist, a ddioddefodd ac a fu farw, yn drosiadol ond yn real, cymaint fel bod efelychu yn dod yn adnabod. Byddai'n well gan Paul fod gydag Iesu yn yr uffern fyw hon, nag i ffwrdd oddi wrtho mewn esmwythdra.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, rwyt ti'n gwybod sut beth yw dioddef a marw - a buddugoliaeth. Yn yr amseroedd anodd hyn, tawela fy ofnau wrth i mi edrych atat ti.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible